HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Ardal Eisteddfod Genedlaethol 2019 16 Ionawr


Ar fore tamp a chynnes cyfarfu 19 o’r aelodau ym maes parcio Glasdir, Llanrwst.  Wedi mentro allan roedd Haf, John Parry, Gwen Richards, Nia, Margaret, Llŷr a Winnie o Ynys Môn, Gwyn ac Anet o Ben Llŷn, Eirwen, Rhiannon, Buddug, Jane, Anne ac Angharad, Elizabeth, Mair a finna.

Ar ôl cychwyn drwy strydoedd y dref buan iawn roeddem yn dringo ar hyd llwybr Coed y Felin gan weld adfeilion yr hen felin ger yr afon Llechog. Yna croesi ffordd y B548 tuag at Pen y fron lle gwelsom esiampl dda o hen fwthyn hir sydd heb ei adnewyddu. Ymlaen am Garth y foel a chroesi’r afon cyn cyrraedd mynedfa Poethfoel. Troi i’r chwith a cherdded ffordd darmac i fyny am Garth yr Hwylbren. Ar ôl dringo ychydig uwch cafwyd seibiant i ryfeddu at yr olygfa o’n blaena. Roedd y Glyderau a Charnedd Llywelyn wedi cael côt o eira dros nos a safle Eisteddfod Genedlaethol 2019 yn gorwedd yn y Dyffryn a ninnau’n gweld draw am Fetws-y-coed i’r chwith a Dolgarrog am y dde. Ciliodd y glaw a gwenodd yr haul arnom am weddill y daith. Ymlaen â ni am Bwlch y Gwynt cyn cychwyn i lawr trwy’r goedwig ac aros am ginio. Llifai Nant Bwlch y Gwynt yn fyrlymus wrth i ni droedio i lawr y llwybr am y Glyn. Troi i’r chwith a chroesi’r cae i ffordd Garth Hebog. Roedd eirlysiau yn garped yn y coed yr ochr arall i Dŷ Newydd a bu i bawb gael gwrês yr haul wrth ddringo i fyny’r allt am Dŷ Mawr. Llwybr hawdd wedyn nes dod allan ar ffordd Nant y Rhiw ger Y Fedw. Lawr a ni nes cyrraedd ffordd Cyffty. Adeiladwyd y tŷ yn 1596, y tŷ cyntaf i’w adeiladu ym Melin y Coed. Rhyfeddwyd at y rhês o goed Sequoia (redwood) tal a arweiniai at y tŷ hynafol. Troi i’r goedwig a dod allan ym mhentref Melin y Coed. Pasio drwy Goed Llydan Mawr a dilyn Nant y Goron yn ôl i’r ffordd fawr gyferbyn â Chae Melwr. Yna cerdded heibio Ysgol Dyffryn Conwy a chael cipolwg ar feini’r orsedd ym mharc Gwydir cyn dilyn llwybr ger yr afon Conwy yn ôl i Glasdir.

Adroddiad gan Iona

Lluniau gan Anet, Anne ag Eirwen ar FLICKR