HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Ardal Dolgellau 15 Mai


Dilynwyd dolen llwybr Llyn Cynwch, drwy glychau'r gog yng nghoed Fedw Felen a oedd yn eu gogoniant, i gopa Bryn y Wiber gyda’i olygfa o aber Mawddach, ac enwyd nodweddion y dirwedd i'r gorllewin. Edrychwyd i lawr ar hen waith copr Glasdir, cyn dychwelyd ar hyd un o hen lonydd y stad ac edrych draw am Foel Offrwm, lle gwelwyd ceiliog mwyalchen y mynydd y gwanwyn hwn. Diolch i Rhys Gwynn am ein tywys ar daith hyfryd.

Adroddiad gan Haf

Lluniau gan Iolo ar FLICKR