HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cwm Llan a Craflwyn 13 Tachwedd



Rhwng dydd Mawrth sobor o wlyb a dydd Iau oer a gwyntog, cafwyd Mercher mwyn a llonydd, diwrnod i’r dim ar gyfer ein taith ar odre’r Wyddfa. Cychwynodd 26 ohonom o faes parcio Pont Bethania ar hyd Llwybr Watkin. Wrth gyrraedd troed inclein chwarel gadawsom lwybr yr Wyddfa a throi am Graflwyn ar hyd y llwybr mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi ei agor. Paned wrth olion gwaith mwyn Hafod y Porth a chinio yn edrych dros y dyffryn, o amgylch adfail mysyglog. Ffwrdd a ni wedyn i lawr i Graflwyn ac yn ôl ar hyd Llyn Dinas ac i’r caffi cyn iddo gau. 

Adroddiad gan Raymond

Lluniau gan Raymond ar FLICKR