HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pedol yr Wyddfa 13 Gorffennaf


Cyfarfu 13 o fynyddwyr brwd ym Mhen-y-Pas; dau i gerdded Llwybr y Pyg a’r gweddill i gerdded a sgrialu Pedol yr Wyddfa. Yn ôl y disgwyl, roedd llwybr y Pyg yn eitha prysur a rhyddhad oedd cael troi oddi wrtho ym Mwlch Moch er mwyn anelu am y Grib.

O ystyried y torfeydd islaw, roedd y Grib ei hun yn rhyfeddol o dawel. Rhaid oedd cymryd pwyll oherwydd y glaw mân, y graig wlyb, awel gref a’r niwl. Ymlaen â ni i lawr i Fwlch Coch a thros Crib y Ddysgl.  Ar Grib y Ddysgl, tarrodd rhai o’r criw ar dri pherson ifanc a oedd yn meddwl eu bod ar y ffordd i gopa’r Wyddfa!

Roedd y llwybr sy’n arwain at gopa’r Wyddfa yn debycach i Stryd Westgate, Caerdydd ar brynhawn gêm nag ucheldir Eryri.  Roedd pobl yn ciwio i fynd i mewn i Hafod Eryri er mwyn defnyddio’r tŷ bach; doedd dim rhyfedd bod y ‘septic tank’ wedi gorlenwi ac yn drewi!

I lawr â ni, heb lawer o oedi, i gyfeiriad Bwlch Main ac yna Llwybr Watkin, sydd, gyda llaw, yn y broses o gael ei wella gan Awdurdod y Parc. Cadw at ochr chwith llethrau’r Lliwedd wedyn i fwynhau rhagor o sgrialu, dros dri chopa’r mynydd ac yna i lawr at Lwybr y Mwynwyr ac yn ôl i Ben-y-Pass.  Rhai yn ei throi hi am Nant Peris a’r gweddill ohonom yn dal y bws Sherpa i lawr i Ben-y -Gwryd.  Yn rhyfeddol, doedd y gyrrwr, a oedd yn siarad dim Cymraeg, erioed wedi clywed am Ben-y-Gwryd!  Gorffen y diwrnod hefo peint haeddiannol yng Nghapel Curig.  

Diolch i’r criw hwyliog am eu cwmni: Dwynwen; Eifion; Eirwen; Eryl; Gareth Everett; Gareth Wyn; Gwyn; Hywel; Ieuan; Iolo; John Arthur; Lowri-Ann (yn croesi’r Grib Goch am y tro cyntaf!).

Adroddiad gan Richard Roberts (Arweinydd)

Llun gan Richard