HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Llwybr Llechi Eryri 13 Ebrill


Daeth tri ar ddeg ynghyd i ddal y bws o Gaernarfon i Lanberis am 9 y bore. Diwrnod braf ond gyda gwynt main o’r dwyrain. Ymunodd dwy arall â ni yn Llanberis.

Ar fore hyfryd i gerdded ac arwyddion y Llwybr Llechi yn dangos y ffordd doedd dim angen i’r arweinydd ofalu fod pawb yn dilyn y llwybr ac o fewn ryw ddwy awr roeddem yn y Snowdonia Arms Waunfawr yn cael paned.

Mlaen wedyn a dilyn yr arwyddbost Y Fron sydd ar gychwyn llwybr yn cychwyn oddi ar y Lôn Wen. Y rhan yma o’r daith yn newydd i lawer a’r golygfeydd o ongl wahanol yn ddiddorol. Y diwrnod yn hyfryd ond yn ddigon oer ar brydiau. Cotiau yn cael ei gwisgo a’i diosg yn aml.

Aros am ginio ar ffridd Foel Smytho ac yn ymlaen at y graig fawr sydd yn y bwlch rhwng Moel Tryfan a Mynydd Mawr, seibiant yma i gael llun.

Cyrraedd canolfan newydd Y Fron erbyn hanner awr wedi dau. Paned a chacen a chael golwg ar y ganolfan. Os ydych am aros mae ystafelloedd ardderchog.

Disgyn i lawr i ddyffryn Nantlle heibio tyllau chwareli anferth ar bob llaw gyda golygfa wych o’r grib ac yna ar hyd yr hen lôn i Dalysarn lle ‘roedd ceir wedi eu gadael i fynd a ni yn ôl i Gaernarfon.

Y cwmni ar y daith oedd Gwen(Evans), Gordon ac Alys Owen, Ellen (George), Eurwen, Dilys, Cheryl, Anet, Gwyn(Chwilog), Rhiannon a Clive, Dwynwen a Gerallt, Eirlys ac Iolyn

Adroddiad gan Iolyn Jones

Lluniau gan Gerallt Pennant ar FLICKR