Crug Mawr 12 Rhagfyr

        
        Dyma griw da o 21 aelod yn ymgynnyll yn maes parcio  Crughywel wedi teithio o bedwar ban Cymru i gerdded yn nghysgod y Mynyddoedd  Duon.
        
Gan rannu ceir, dyma deithio i gyfeiriad y Dwyrain am ryw  ddwy filltir i bentref bach Llangennau. Wedi croesi pont fach, dyma ddilyn yr  afon Grwyne Fawr a chroesi pontydd bychain o bryd yw gilydd. Gyda lwc, roedd y glaw trwm wedi cilio a daeth awyr las i’r  golwg wrth i ni gyrraedd y tir agored. Gan esgyn yn raddol i fyny trwy ambell  gae roedd Crug Hywel (hen Fryn Gaer) i’w weld yn glir wrth edrych i’r  Gorllewin. Gyda’r tywydd yn clirio roedd copaon Pen y fal a Phen Cerrig Calch yn  ymddangos yn y pellter.
Cyn hir dyma gyrraedd ffordd y Bannau a gan godi i uchder o  550 m dyma gyrraedd copa gwyntog Crug Fawr. Cario ymlaen wedyn gan ddisgyn yn  raddol a chyrraedd lloc defaid.
Roedd y tir yn llithrig dan ein traed a gofal oedd angen. Yn  anffodus mi gollodd John Rowlands afael ar bethau a gyda ambell birouette  osgeiddig dyma fe ar ei hyd fewn i’r rhedyn. Symudiadau y byddai ddim o’i le yn  ffeinal Strictly Come Dancing!
Cyn hir daethom at Eglwys Patricio Sant Issui’s yn  Partrishow. Dyma eglwys hynafol bendigedig o’r 14 ed ganrif. Mae’r eglwys yn adnabyddus  am y groglofft o’r 15ed ganrif, allorau cerrig a lluniau ar y waliau. Eglwys  werth ei gweld.
Wedi aros yno am ginio a sgwrs dyma droi tua’r De, lawr ar  heol gul tuag at Craig y bwla. Penderfynodd rhai gymeryd llwybr gymharol fwdlyd  nôl tuag at bentref Llangennau ac eraill yn cadw yn gall ar yr heol! Taith o  thua 12 milltir i gyd.
Erbyn cyrraedd Crughywel, roedd hi’n amser ymlacio a chael  cinio yn Ngwesty’r Bear. Diolch yn fawr i gwmni pawb ac yn enwedig i Richard  Mitchley am arwain a threfnu y daith.
Adroddiad gan Dewi.
      
    Lluniau  o'r daith a'r cinio yn Y Bear gan Dewi a Gerallt ar FLICKR
