HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Rhos y Bwlch (Rosebush) Sir Benfro 12 Hydref


Ar ôl sawl diwrnod glawiog a rhagolygon nad oedd yn rhagweld tywydd llawer gwell, braf oedd gweld 16 o fynyddwyr yn cwrdd ym maes parcio Rosebush. (Dyma’r unig enw am y lle a welwch chi ar fapiau neu arwyddion. Serch hyn, yn ystod y daith dysgwyd wrth un o’r cerddwyr mai Rhos y Bwlch yw’r enw Cymraeg.)

I gychwyn, cerddom ar y llwybr i’r gogledd drwy goedwigaeth ac heibio i’r hen chwareli llechi ac allan i’r mynydd agored ger Bwlch Pennant. Esboniwyd bod y daith yn dilyn siâp rhif wyth a byddem yn dod heibio i’r lle hwn eto tua diwedd y daith.

Ymlaen wedyn i Dafarn-y-bwlch, Gernos-fach a Gernos-fawr. Wedyn, ar ôl rhyw hanner cilometer ar heol fach i’r de-orllewin, troesom i’r de a dringo Foel Eryr. Chafwyd dim glaw hyd hynny ac er y cymylau roedd golygfeydd da ym mhob cyfeiriad o’r de-orllewin.

Disgyn, wedyn, i Fwlch-gwynt ac ymlaen heibio i Fwlch Pennant cyn troi eto i’r de i gyrraedd Foel Cwm Cerwyn, y copa uchaf yn y Preselau. Eto, roedd y golygfeydd godidog yn werth yr holl gerdded.  Roedd o leiaf 2 o’r grwp heb fod ar Foel Cwm Cerwyn o’r blaen. I lawr, wedyn, a dychwelyd i’r man cychwyn.

Chafwyd dim glaw o gwbl. Rhyw 12 milltir oedd y daith a dringwyd y ddau gopa uchaf yn y Preselau.

Adroddiad gan Digby Bevan

Lluniau gan Dewi Hughes ar FLICKR