Llan Ffestiniog i Benmachno 6 Hydref

  
Mae’r daith  yma yn un cymal o Daith Llechi Eryri a gellir gweld manylion ar y safle we 
      https://www.snowdoniaslatetrail.org/index.php/taith-info-cy/y-taith.html.
Deg ddaeth ar  ddiwrnod oedd yn eithaf sych o ran glaw ond yn wlyb iawn dan draed. Y glaw yn y  dyddiau cynt yn golygu fod yr afonydd yn llawn a golygfeydd trawiadol yng  ngheunant Cynfal a rhaeadrau pen uchaf cwm Cynfal a chwm Machno.
      
      Mae’r daith yn  dai rhan gwahanol. O Llan drwy gwm cynfal i Bont yr Afon Gam sydd yn ardal gyda  ffermydd gan gynwys y ffermdy hynafol iawn Cwm. Yr ail ran drwy dir corsiog yn  cynwys Llyn Morwynion cyn cyraedd chwarel Manod. O’r fan yma ymlaen mae’r  chwareli llechi i’w gweld ac mae’n rhyfedd meddwl faint o ddiwydiant oedd mewn  rhan o’r wlad sydd mor anghysbell.
      
      Ar ddiwedd y daith cyfle i gymdeithasu yn y  dafarn ym Mhenmachno cyn i’r tacsi ddod i fynd a ni yn ôl i Lan Ffestiniog.  Diolch i Eryl a ddaeth i’n cyfarfod yn y dafarn a mynd a dau o’r cerddwyr yn ôl  ( dim lle i bawb yn y tacsi).
      
      Y cwmni  oedd: Liz Wallis, Iolo  Roberts, Elen a  Gwilym Hughes, Dei a  Cheryl Jones, Dwynwen a  Gerallt Pennant ac Eirlys ac Iolyn Jones 
Adroddiad gan Iolyn Jones
Lluniau gan Gerallt Pennant ar FLICKR
      
    
