HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Cnicht - Taith i bawb 6 Mai


Ymunodd 16 gyda mi ar gyfer un o deithiau diwrnod blasu’r Clwb i fyny’r Cnicht gydag amrywiaeth go sylweddol mewn oedran yn amrywio o 75 mlwydd oed i Morgan oedd yn 6 mlwydd oed ac yn llawn egni! Roedd y gog yn canu yn y coed gerllaw wrth i ni gychwyn ein taith o’r maes parcio a dilyn y ffordd drwy’r pentref tua’r llwybr i fyny’r Cnicht. Roeddem yn ffodus gyda’r tywydd yn sych a chlir ac wrth i ni ddringo cawsom gyfle i fwynhau'r golygfeydd o fynyddoedd gogledd Eryri yn cynnwys yr Wyddfa ac i’r de y Moelwynion a phellach. Ar ôl seibiant am baned tua thri chwarter y ffordd i fyny aethom yn ein blaenau am y copa, gyda  Morgan yn dringo’r darn creigiog serth olaf gyda Dwynwen, Gerallt a Gwenan a’r gweddill ohonom yn dilyn y llwybr.

Ar ôl  treulio ychydig o amser ar y copa ymlaen a ni i gyfeiriad Llyn yr Adar, y tir bellach yn fwy gwastad a’r cerdded yn dipyn haws gyda digon o le i gydgerdded a sgwrsio wrth i ni fynd yn ein blaenau. Troi wedyn am Chwarel y Rhosydd a throedio’n ofalus drwy’r tir gwlyb sy’n arwain i lawr i’r bwlch. Yn ffodus, gan ei bod wedi bod yn gyfnod sych, doedd y darn yma ddim mor wlyb ag y mae’n gallu bod.

Wedi cyrraedd y bwlch cafwyd golwg ar hen adeiladau'r chwarel, rhai o’r criw heb eu gweld o’r blaen ac yn rhyfeddu at faint y safle a pha mor brysur y byddai wedi bod yno ar un adeg. Cawsom hefyd gipolwg ar y fynedfa i’r twneli sy’n arwain i mewn i’r chwareli tan ddaearol. Ar ôl cinio a chychwyn ar y llwybr i lawr Cwm Croesor cawsom syrpreis pan ymddangosodd Morfudd (ar ôl bod yn coginio cacen pen-blwydd yn y bore!). Roedd wedi penderfynu dod allan ychydig yn hwyrach a llwyddodd i’n dal i fyny.

Roedd yn dro hamddenol lawr yn ôl i’r pentref a Morgan yn llawn egni yn rhedeg nôl a blaen i’r diwedd! Cyrhaeddwyd yn ôl i’r pentref erbyn oddeutu 3 o’r gloch, jyst mewn pryd i gael paned a chacen yng nghaffi’r pentref cyn troi am adref.

Llawer o ddiolch i Esyllt, Ilid, Heini, Einir, Pryderi, Gwenan, Mair, Morgan, Meleri, Elen, Lowri, Rhiannon, Dave, Eirwen, Gerallt a Dwynwen am eu cwmni difyr yn ystod y dydd a gobeithio y gwelwn rai oedd yn mentro allan hefo’r clwb am y tro cyntaf ar deithiau clwb yn fuan eto.

Adroddiad gan Iolo Roberts

Lluniau gan Gerallt Pennant ar FLICKR