Taith Cwm Caerfanell 27 Ionawr

  
Daeth criw bach at ei gilydd ym maes parcio Blaen y Glyn  rhyw dair milltir o gronfa ddwr Talybont (SO 056175). Gyda rhagolygon o law a  niwl am y dydd penderfynwyd newid y daith gan osgoi dod lawr Cwm Caerfanell y  tro hyn. Mewn tywydd sych a braf mae'r llwybr lawr drwy'r goedwig a dilyn nant  Caerfanell yn un hyfryd iawn ond gan fod tipyn o law wedi bod dros y diwrnodau  diwethaf penderfynwyd osgoi y llwybr y tro hyn a chadw at y crib uwchben.
        
        I gadw y daith yn gymharol fyr (tua 7 milltir) o achos y  tywydd aethpwyd a dau gar tuag at faes parcio pen draw y gronfa ddwr i orffen y  daith fan honno.
        
        Felly, gan ddechrau o faes parcio Blaen y Glyn dyma godi  yn unionsyth fyny tuag at Graig Fan Ddu (683 m), dilyn y llwybr ar hyd Graig Fan  Las nes cyrraedd Rhiw Bwlch y Ddwyallt. Mae modd darganfod carreg coffa a  gweddillion awyren Wellington daeth lawr yn 1942 tua hanner cilomedr oddiar y  brif lwybr yma.
        
        Lladdwyd criw o fechgyn o Ganada ac mae cofgolofn syml  yn nodi y ddamwain. Yn anffodus roedd y niwl ar tirwedd wedi ein trechu i  gyrraedd yno y tro hyn.
        
        Ymlaen felly ar hyd Waun Rydd nes cyrraedd Carn Pica. Siom  oedd gweld rhywfaint o ddifrod i'r Carn o achos y tywydd tybiwn. Er hynny,  roedd rhywfaint o gysgod yno i fwyta rhyw frechdan wlyb cyn mynd ymlaen i Twyn  Du (533 m). Am ychydig fe gliriodd y niwl fel medrwn weld lawr y cwm tuag at Glyn  Collwyn a chronfa ddwr Talybont. Dyma ddilyn llwybr amlwg lawr at y ffordd fawr  tuag at y maes parcio (SO 099198).
        
      Er gwaeddaf y tywydd cawsom ddiwrnod hwylus gan edrych  ymlaen unwaith yn rhagor i gerdded llwybrau Cwm Caerfanell.
Adroddiad gan Dewi Hughes
        
      Lluniau gan Dewi ar FLICKR
