HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Carneddau o Fethesda 24 Mawrth

Dyma un ar bymtheg ohonom yn ymgynnull ym maes parcio gwaelod Pant Dreiniog gyda’n trwynau tua chopaon y Carneddau. Yr her gyntaf oedd esgyn i fyny allt Gerlan cyn troi fyny Ciltwllan – un o gyfres o ‘Gil-wbath’ sydd ym Methesda. Fe wnaethom gyflawni dipyn o’r dringo ar gychwyn y daith oherwydd i ni ffeindio’n hunan ar gopa Gyrn Wigau ymhen rhyw awr ar uchder o 615 m.

Yn anffodus mi wnaethom ffarwelio â’r tywydd teg o hyn ymlaen wrth i ni fynd am Drosgl a oedd a’i phen yn y niwl. Gwaith cwmpawd amdani felly wrth i ni frasgamu heibio Bera Bach a’r Aryg tua Charnedd Gwenllïan. Bellach roeddem yn mynd i wlad y clytiau eira sy’n gallu edrych fel  ‘darnau o flaenau ewinedd’ chwedl Wil Croesor gynt!

Roedd y niwl yn dechrau teneuo rhywfaint wrth i ni setlo am ginio haeddiannol o flaen y cwt ger copa Foel Grach er iddo aros yn ystyfnig braidd ar gyfer ein copa olaf am y diwrnod, sef Carnedd Llywelyn. Ar y cyfan cawsom ein bendithio ar rhan dychwelyd y daith i lawr Cwm Pen Llafar wrth iddo godi’n wirioneddol o braf jest cyn i ni adael yr ysgwydd a chael golygfeydd dros Lyn Dulyn a chyffiniau Dyffryn Ogwen.

Cawsom ein sobri o weld y gofeb i griw awyren Avro Lincoln ddaru ‘crashio’ yng Nghwm Pen Llafar ym 1950 gan eu lladd i gyd. Yn anochel roedd darnau o’r awyren flith draphlith ar hyd y llethrau gyda natur a dyn yn ceisio’u gorau i un ai adennill neu ailgylchu’r darnau metal.

Cawsom baned pnawn yng nghysgod bygythiol yr Ysgolion Duon a oedd yn edrych yn drawiadol tu hwnt gyda charpiau  o niwl yn chwyrlio o gwmpas colofnau’r clogwyni. Ymlaen â ni i lawr y dyffryn hamddenol troellog hir nol am Gerlan gyda’r haul a gweddill y criw yn gwmni da.

Diolch i: Chris, Hilary, Gerallt, Dwynwen, Arwel, Gareth Everett, Rhian, Morfudd, Dafydd Legal, Ieuan, Sioned, Edward, Richard, Catrin, Iolyn am eu cwmni.

Adroddiad gan Sian

Lluniau gan Gerallt ar Flickr