HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Llawllech a Bwlch y Rhiwgyr 23 Mehefin

Ar y 23ain o Fehefin, a hithau’n dywydd braf heb fod yn rhy boeth, aeth deg ohonom, sef, Lisa Tomos, Sian Shakespear, John Parry, Huw Myrddin, Nia Wyn, Dafydd Parry, Lucy Swannell, Raymond Roberts, Iolyn a minnau  ar daith hamddenol o Dal-y-bont i gopa Llawllech. 

Cychwynyd o faes parcio Tal-y-bont gan gerdded y llwybr sy’n rhedeg gydag afon Ysgethin at Lety Lloegr, lle arferai’r porthmyn aros gynt. Wedi edmygu Pont Fadog, ymlaen a ni wedyn i Fwlch y Rhiwgyr gan gerdded ar hyd y llwybr yr arferai’r porthmyn deithio gynt.  Wedi seibiant i fwynhau’r golygfeydd prydferth o aber yr afon Mawddach gyda Chadair Idris a’r mynyddoedd eraill yn gefndir, aethpwyd ymlaen ar hyd y grib i gopa Llawllech ac yna cherdded nes cyrraedd y llwybr sydd yn mynd dros y mynydd i’r Bontddu, gan aros yno i gael cinio. Lawr wedyn i edmygu pont hynafol Sgethin, cyn cychwyn yn ôl gan gerdded heibio llyn Irddyn cyn ymuno unwaith eto â’r llwybr drwy’r coed yn ôl i lawr i Dal-y-bont.

Diolch i bawb a ddaeth ar y daith am eu cwmni diddorol.

Adroddiad gan Eirlys

Lluniau gan Eirlys ar Flickr