HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Glyderau 17 Ionawr


Gwych oedd canfod bod deunaw wedi ymgynnull ar lan Llyn Ogwen, er ei bod yn ddiwrnod cymylog a gwlyb. Ond, wrth inni ddringo'r llechweddau tua Llyn Bochlwyd, buan y trodd y glaw yn eira ysgafn, a'r tir dan rhai modfeddi o eira newydd yn rhoi gwedd aeafol i'r mynyddoedd.

Wedi paned sydyn ym Mwlch Tryfan, roedd rhai'n meddwl fod yr eira'n gymorth dan draed wrth i ni ymlwybro i fyny'r sgri serth, sydd fel arfer mor rhydd, i gopa Glyder Fach. Braf oedd cerdded yn fwy hamddenol wedyn ar hyd y gefnen, gyda'r rhan fwyaf yn dewis mynd o amgylch Castell y Gwynt ond pump dewr yn mynd drosto. Mwynhawyd mymryn o ginio yng nghysgod copa Glyder Fawr, a'r cymylau erbyn hyn wedi cau amdanom go iawn.

Rhaid oedd wrth ofal i lawr y llethrau serth tuag at Lyn y Cŵn, gan fod eira caled wedi rhewi dan yr wyneb, a felly hefyd lawr heibio'r Twll Du. Cawsom y fraint wedyn o fod ymysg y rhai cyntaf i groesi'r bont, oedd newydd ei chodi ddyddiau ynghynt, dros y ceunant ger y Rhiwiau Caws. Roedd pawb yn gytûn fod Cwm Idwal yn hynod o drawiadol gyda phob dim yn naill ai'n ddu neu'n wyn, gan roi diweddglo perffaith i ddiwrnod rhagorol o fynydda.

Ymysg y criw roedd dau Hywel (Prion a Brwcws) ac un Richard o Ddyffryn Clwyd; Cemlyn, Chris, Hilary a Dyfed o Ddyffryn Ogwen;  Edward, Elen a Maldwyn o Ddyffryn Nantlle; Raymond, Gareth Rynys, Gareth Wyn ac Eryl o Ddyffryn Conwy, Stephen o Ynys Môn, Rhian o'r ochr arall i'r Fenai ac Ann o Feddgelert.

Adroddiad gan Eryl

Lluniau gan Stephen ar FLICKR