HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cnicht a'r Moelwynion 19 Mai

Wrth deithio i lawr i Groesor ar fore Sadwrn braf a heulog gyda rhagolygon o ddiwrnod poeth o’n blaenau ar gyfer y daith i fyny’r  Cnicht a ‘r Moelwynion meddyliais y dylwn atgoffa pawb ar gychwyn y daith i sicrhau fod ganddynt gyflenwad digonol o ddŵr ac eli haul. Cryn embaras i mi felly, wedi cyrraedd y maes parcio yng Nghroesor, oedd sylweddoli fy mod wedi anghofio fy mhoteli dŵr! Yn ffodus iawn roedd Gerallt ar ei ffordd ar ôl cwblhau ei raglen radio ac fe lwyddwyd i gael neges iddo stopio i brynu poteli dŵr i mi.

Roedd 18 o aelodau wedi ymuno ậ mi ar gyfer y daith ac fe ddringon o Groesor i gopa’r Cnicht mewn amser da i gael paned a mwynhau’r golygfeydd o’n cwmpas, ac yn ffodus iawn roedd fy nghyflawnwr dŵr wedi ein dal i fyny erbyn hyn! Yn ein blaenau wedyn i gyfeiriad Llyn yr Adar ac yna lawr i Chwarel Rhosydd gan alw heibio Llyn Cwm Corsiog ar y ffordd. Mae’r rhan yma o’r daith i lawr i Chwarel Rhosydd yn adnabyddus fel un wlyb iawn dan draed. Yn ffodus iawn, gan iddi fod yn wythnos eitha’ sych,  doedd hi ddim mor ddrwg ag arfer. Wedi cyrraedd y chwarel dringwyd i fyny'r incleins cyn cael saib am ginio.

Wedyn cafwyd dringfa anoddaf y diwrnod  i gopa Moelwyn Mawr yng ngwres haul y prynhawn ond roedd awel hyfryd yn ein disgwyl ar y copa a golygfeydd godidog o’n cwmpas, o fynyddoedd Meirionnydd a Gogledd Eryri, aber yr Afon Glaslyn a Phen Llŷn yn y pellter.

Lawr a ni wedyn, tros Graig Ysgafn ac i fyny Moelwyn Bach, copa olaf y diwrnod, cyn disgyn i lawr yr ysgwydd i gwrdd ậ’r ffordd  oedd yn ein arwain yn ôl i bentref Croesor. Ar y ffordd i  lawr arhoswyd i Gerallt dynnu ei lun arferol o’r grŵp. Ar ôl cyrraedd y maes parcio anelodd pawb am dafarn y Ring am ddiod oer haeddiannol a braf oedd eistedd y tu allan a chael sgwrs hamddenol  cyn cychwyn am adref.

Mawr ddiolch i Dwynwen, Gerallt (y cludwr dŵr o fri), Gareth Everet; Ann ac Aled; Gareth a Sioned; Huw o Aberystwyth, Gwyn (Llanrwst), Eryl, Gwen (Chwilog); Richard, Robat, Meilir a Noel o Ruthun; Elen, Eleri a Mared o Rydymain am eu cwmni difyr yn ystod y dydd. Roedd yn daith eithaf anghyffredin i mi gydag oddeutu hanner y rhai yn bresennol yn wynebau dieithr ar eu taith gyntaf hefo’r clwb neu ond wedi bod allan yn achlysurol iawn ond roedd yn dda iawn cael eu cwmni a gobeithio eu bod wedi mwynhau. Roedd yn arbennig o galonogol i weld Aled, Mared a Sioned fel rhai ifanc yn ein canol; gobeithio y cawn eu cwmni eto.

Adroddiad gan Iolo Roberts     

Lluniau gan Gerallt Pennant ar Flickr