HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Mynydd Y Rhiw 18 Ebrill

Doedd hi ddim yn argoeli yn rhy dda yn y bore - y lộn uniongyrchol i’r man cychwyn wedi cau a’r lonydd culion i gyrraedd dan niwl trwchus. Er hynny llwyddodd tri deg naw ohonom i gyrraedd maes parcio Plas yn Rhiw erbyn amser cychwyn, pawb yn obeithiol iawn bod y tywydd am wella. 

Doedd y bwtias y gog ddim wedi ymddangos yn y coed (fel yr oeddan amser yma llynedd) ac roedd yn niwl dopyn wrth i ni droedio Llwybr yr Arfordir gyda Mynydd y Graig a thros Fynydd Penarfynydd. Ond, er mawr ryddhad, wrth gyrraedd Trwyn Talfarach diflannodd y niwl a bu’n glir am weddill y dydd. Tua’r de roedd golygfeydd da o Borth Neigwl a Chilan gyda mynyddoedd Meirion tu cefn iddynt ac i’r gogledd Ynys Enlli, Ynysoedd y Gwylanod, Trwyn y Penrhyn a Maen Gwenonwy. Wedi seibiant a phanad dyma droi am fferm Penarfynydd a phentre’r Rhiw. 

Toc roeddem ar odre brigiad folcanig Clip y Gylfinir a manteisiodd mwy na hanner y criw ar y cyfle i’w ddringo. Ymlaen wedyn am gopa Mynydd y Rhiw a chyfle am seibiant a phaned arall. Wrth gychwyn ar i lawr roedd Garnfadryn yn ein hwynebu a mynyddoedd Eryri yn glir tu cefn iddi. Saib bach wrth adfeilion Capel Galltraeth i sylwi ar feddau’r brodyr Griffith a Watcyn Jones  yn y fynwent, y ddau yn byw yn yr un tŷ ond wedi ffraeo a heb siarad ậ’i gilydd am flynyddoedd. Erbyn diwedd cyfnod y capel dim ond y ddau oedd yn mynychu’r oedfaon, Griffith yn codi canu a Watcyn yn y sedd gefn, heb dorri gair ậ’i gilydd.  

Ymlaen wedyn heibio dau o fythynnod yr Ymddiriedolaeth, Tan yr Ardd a Frondeg, gan ddotio at eu gerddi cymen, heibio cromlechi Tan y Muriau a’r angor dwy dunnell o flaen y tŷ, cyn cyrraedd Plas yn Rhiw. Roedd yn amheuthun cael tywydd digon cynnes i eistedd allan i fwynhau panad a theisen.

Diolch i’r criw ymunodd ậ ni ar y daith am eu cwmni – Dewi Rita, Nia Wyn, Rhodri, Rhys Llwyd a Gareth T o gyffiniau Bangor, Morfudd, Ann R, Mair R, Jen, Rhiannon, Alun R a Glyn o ochra Caernarfon, Nia, Margaret a Llŷr o Fộn, Ann, Iona a John A o ochra Dyffryn Conwy, Eryl ac Angharad Penmachno, Gwen Rhuthun, Meic, Sam a Haf M o Feirion, John a Carys P ac Emyr o Port, Gwyn a Linda Chwilog, Iolo o Dal y Bont a’r gweddill ohonom o Lŷn, Rhian, Mair O, Helen, Alwenna John Elfyn, Gwenan, Gwil ac Anet.

Adroddiad gan Anet

Lluniau gan Iolo ar Flickr