HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Craig y Nos 17 Tachwedd


Dyma deuddeg ohonom yn cyrraedd maes parcio parc gwledig Craig y Nos (SN839 155) yn agos i ogofeydd Dan yr Ogof.

Y criw tro yma oedd Alun, Meirion, Eurig, Digby, Helen, Gareth, Pens, Pwt, John, Guto yn arwain, Rhun a finnau.

Yn nghysgod y plasdy enwog dyma ddechrau ar ein taith heibio llyn yr hwyaid, a dilyn llwybr amlwg caregog ar brydiau. Dyma ddod allan i'r tir agored i lethrau hen chwarel galch Penwyllt. Yma gellir gweld adfeilion hen dai y gweithwyr ac adeiladau yr hen chwarel yn ogystal ar hen blatform y rheilffordd oedd arfer rhedeg o Abertawe i Aberhonddu. Yma y byddai Adelina Patti yn dod oddiar y tren a mynd nôl i'r castell. Rwyn siwr byddai Madam Patti wrth ei bodd yn edrych ar y golygfeydd bendigedig o Gwm Tawe a'r Bannau wrth ddychwelyd nôl o ambell i gyngerdd.

Dyma gerdded ar hyd yr hen rheilffordd am tua 2 filltir cyn cyrraedd maes parcio Hennrhyd isaf cyn hir ac amser i gael paned. Lawr a ni wedyn gan ddilyn llwybr serth lawr i'r ceunant, dros pont nant Llech tuag at sgwd trawiadol Henrhyd. Wedi oedi am ychydig i werthfawrogi y man, dyma ddilyn llwybr ger y nant am tua 2 filltir, heibio Melin llech a croesi yr afon Tawe. Wedi cyrraedd pentref Abercraf, dyma droedio trwy goedwig Abercraf ac unwaith eto i'r tir agored.

Dyma dechrau dringo i'r gorllewin tuag at Pen cribarth, cyn troi i'r Gogledd Ddwyrain a chopa Cribarth 423 m. Dyma lecyn bendigedig i weld olion chwarel galch o ganol y 19 fed ganrif.

Lawr a ni wedyn nôl i waelod y cwm a'r man cychwyn unwaith yn rhagor. Taith o tua 5 awr a hanner (11 milltir).

Diolch yn fawr i Guto am arwain a threfnu taith hynod o ddiddorol yn ardal CwmTawe.

Adroddiad gan Dewi

Lluniau gan Dewi a Guto ar Flickr