HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Carneddau o Ogwen i Ro-wen 16 Mehefin

Roedd gen i freuddwyd, sef  taith hirddydd haf ar hyd y Carneddau o Ogwen i Fwlch y Ddeufaen! Chwalwyd y freuddwyd ar y Sadwrn arbennig yma. Daeth 12 ynghŷd i Glan Dena yn Ogwen ar fore llaith a chymylog. Onid oedd y Gwasanaeth Tywydd yn gaddo pethau i wella’n gyflym, ac roedd ymdrechion y cyd-aelodau i gael ceir mewn lle ym Mwlch y Ddeufaen eisioes yn sylweddol, yn enwedig pan fo diadell ddefaid un o ffermwyr y fro wedi meddianu’r ffordd ac yn mynu ein dal yn ôl.

Aethom i fyny i gyfeiriad Ffynnon Lloer yn eithaf rhwydd, gan wedyn ddringo’r grib hyd nes cyrraedd copa Pen yr Olau Wen. Oedd roedd y niwl a’r glaw mân yn boen gyda dillad glaw yn bwysau ychwanegol – ond roedd hi’n siwr o wella, ac roedd y dringo caled trosodd! Ymlaen i gopa Carnedd Dafydd, a chael ysbaid i baned, cyn troi i gyfeiriad y dwyrain a Bwlch Cyfryw yng nghwmni’r niwl. Dringo byr ond caled i gopa Carnedd Llewelyn, cyn mynd ymlaen trwy wynt a glaw cyson a chaled i gysgod derbynniol iawn am ginio yng nghwt y Foel Gras. Roedd tri o ddewrion wedi ychwanegu at yr artaith trwy bicio draw i’r Elen, cyn ymuno â ni am ginio.

Wrth fynd i gyfeiriad Carnedd Gwenllian ac wedyn y Foel Fras, peidiodd y glaw a chwythwyd y cymylau isel i ffwrdd gan adael gweddill y daith mewn heulwen lachar a gwynt cryf, gan ein galluogi i weld golygfeydd  gwych gogledd y Carneddau – Ynys Môn a Dyffryn Conwy gan gynnwys y Creuddyn a’r Gogarth Fawr. Cafwyd paned i ymestyn yr olygfa ysblennydd ar gopa y Drum, cyn disgyn i lawr i‘r bwlch ac yn ôl at y ceir a adawyd yno am 08.30 y bore. Erbyn hyn roedd dau o’r tri a aeth i’r Elen wedi llwyr ymladd, fel y dengys y dystiolaeth!

Taith fythgofiadwy medd Aneurin, ac oedd  roedd gwen ar wyneb pawb yn heulwen diwetydd Bwlch y Ddeufaen. Diolch am gwmni a chymorth cyd-aelodau, sef Aneurin a Dilys, Eifion, Eryl, Dafydd Legal, Dafydd ac Ieuan o Aberystwyth, Gwen o Chwilog, Richard o Rhuthun, Raymond a John Arthur (heb allwedd ei gar!). Ond mae’r freuddwyd yn parhau.....  eto rhyw hirddydd haf...........

Adroddiad gan Gwyn

Lluniau gan Aneurin Phillips ar Flickr