HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Dilyn ôl-traed y Crynwyr 14 Tachwedd


Diolch i Mary am daith ddifyr yn ardal Dolgellau. Ymysg y cerddwyr roedd Iolo ap Gwynn, Huw Aber, Meic Ellis, Margaret, Llŷr a Nia, Buddug, Angharad ac Eryl, Nia Wyn a Rhiannon HJ, Anet, Gwenan a Gwil, Gwyn Chwilog, Alun Gelli, Rhiannon a Clive, Alys a Gordon Owen, Eileen a 2 o’r de orllewin, Hywel a Hywel o Ddinbych, Ellis, Tegwen a Haf.

Wedi i bawb gasglu ar y Marian yn Nolgellau, rhoddodd Mary groeso i bawb i un o ardaloedd prydferthaf de Sir Feirionnydd. Mae tref farchnad Dolgellau wrth droed Cader Idris ac mae gwlad brydferth o'i hamgylch. Mae'r dref yn ganolfan boblogaidd i deithwyr sy'n ymweld â Chymru o bedwar ban byd, yn ogystal â Chymry sydd am fwynhau'r dref fechan a'i hatyniadau.

Ym 1657, ymwelodd George Fox, un o brif arweinwyr y Crynwyr, ag ardal Dolgellau. Apeliodd y ffydd newydd hon yn fawr at bobl yr ardal ond cafodd y Crynwyr eu herlid ac ymfudodd nifer i Bennsylvania gan feddwl dechrau bywyd newydd yno. Mae brodwaith yn dangos hanes Crynwyr Meirionnydd cyn yr ymfudiad i'w weld yn y Llyfrgell leol.

Pwll y Gadair Goch – Yma wrth ymyl y bont arferid trochi gwragedd a gyhuddid o fod yn wrachod yn y Gadair Goch. Pe llwyddai'r wraig i gadw ei phen uwchben y dŵr, prawf oedd hynny fod ei henaid wedi gadael ei chorff a bod y diafol yn gofalu am ei eiddo ei hun. Pe suddai hi o dan y dŵr, prawf oedd hynny ei bod hi'n ddieuog ond yn aml iawn fe ddaeth y dystiolaeth yn rhy hwyr i achub ei bywyd.

Ceunant Stwcle - Mae sôn bod y Crynwyr yn addoli yn y ceunant hwn a'r bobol leol yn eu herlid trwy daflu cerrig atynt.

Bryn Mawr - Dyma gartref Rowland Ellis a ymfudodd gyda'r Crynwyr ac a ddaeth yn ffigwr blaenllaw yn y Gymdeithas. Crynwyr Meirionnydd oedd y rhai cyntaf i fynd i Bennsylvania a sefydlu cymuned lle roedd rhyddid i Gymry Cymraeg addoli yn eu hiaith eu hunain. Adeiladodd dŷ yno a’i enwi yn Bryn Mawr a dyna darddiad Coleg Bryn Mawr yn yr America.

Seilir y nofel enwog Y Stafell Ddirgel a'i ddilynydd Y Rhandir Mwyn gan Marion Eames ar fywyd Rowland Ellis.

Goedwig Tyddyn Du – Mae nifer o wahanol fwsoglau yn y goedwig hon. 

Capel Bwlch Coch – Mae hwn yn dŷ haf bellach.
  
Tir Stent – Mae sôn am gytundebau tir yma yn 1633. Roedd hawl gan berchennog tir oedd o amgylch tir stent i bori anifeiliaid ar y tir hwn. Dwi'n credu bod hyn dal i gael ei neud er does dim cymaint o wartheg yr oes yma ac mae'r tyfiant o redyn yn cymryd drosodd rhai darnau. Gan bod gwythïen galchog yn rhedeg drwodd o ardal Nant y Gwrddail draw i'r Benglog yn ardal Rhydymain, mae'n lle enwog am flodau fel y gronnell a thegeirian coch y waun.

Dewisbren Uchaf – Yma roedd cartref Dorothy Owen neu Dorti fel oedd yn cael ei galw. Yma, yn y ddeunawfed ganrif oedd prif ganolfan Crynwyr yr ardal. Cerddodd Dorti filltiroedd lawer i wahanol gyrddau gan gynnwys cyfarfod blynyddol y Crynwyr yn Llundain.

Capel Tabor – Dorti a'i brawd Robert fu'n gyfrifol am adeiladu y Tŷ Cwrdd tua 1792. Gwerthwyd y lle i'r Annibynwyr yn 1854 gan y Crynwyr oedd ar ôl yn yr ardal.

Tyddyn Garreg – Dyma oedd cartref Owen Lewis. Sefydlwyd mynwent yma i'r Crynwyr. Yn ddiweddarach, defnyddiwyd y fynwent gan yr Annibynwyr. Mae englyn ar fedd mam Tomi Price er cof amdani:

Yn fyw iawn yn fy nghof i - er y bedd
    A thra bwyf y byddi;
  'Does dim yn gyfan imi
  Yn y byd hwn hebot ti.

Adroddiad gan Haf a Mary

Lluniau gan Llŷr a Iolo ar Flickr