HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Dyffryn Afan i Gwm Llynfi 14 Gorffennaf



Man cychwyn: Maes Parcio Parc Gwledig Afan Argoed, Dyffryn Afan SS 823952.

Yr oedd unarddeg o gerddwyr ar y daith ar ddiwrnod crasboeth – Rhun, Dewi, Alun, Pete, Eryl, Eurig, Helen a Digby, John, Gareth a Dyfrig a digonedd o ddŵr.

Dechreuodd y daith ym Mharc Gwledig Afan Argoed yn Nyffryn Afan – y tymheredd yn barod yn 26 gradd selsiws. Dringo yn gyntaf i fyny i’r llwybr uwchben pentrefi Cynonville a Dyffryn. Yna, heibio i domenni glo pwll Dyffryn Rhondda(na, nid Y Rhondda go iawn, ond wedi dwyn yr enw). Cyrraedd mast deledu Foel Fawr mewn awr ac yn falch o gael seibiant rhag yr haul. Dyma’r cyfle cyntaf i weld Cwm Llynfi yn ei ogoniant wrth edrych i lawr ar Y Caerau, cartref Norah Isaac ac yna ar Nantyffyllon a Maesteg.

Yna, croesi yr hewl fawr, trwy pentref Croeserw i gwm hyfryd Nanty fedw. Dyma ni’r cyrraedd wedyn croesffordd y llwybr lawr i Gwm Garw ond yn hytrach dringo i fyny i Mynydd Caerau a chyrraedd y copa sy’n 555 m (tua 1804 tr). Roedd hyn yn rhoi cyfle i ni gael cinio bach ac edrych ar y golygfeydd godidog (Maesteg eto), ond hefyd, Bannau Shir Gâr, Pen y Fan, Bro Morgannwg a draw at arfordir Gwlad yr Haf a gogledd Dyfnaint, a hefyd Bae Abertawe. Wedi seibiant byr, dyma Alun yn gweiddi, ‘reit, bant â’r cart’ (Alun pwy?).

Llai o ddringo o ddringo yn y prynhawn gan gerdded o dan ychydig o’r tyrbeins gwynt sy’n croesi’r cymoedd, heibio i goedwig Bryn Siwrnai, o dan ysgwydd Mynydd Pwll yr Iwrch cyn dringo lawr i Gwm Llynfi. Mae’r rhan yma yn llawn olion lefelau glo preifat a thomenni glo. Yna, croesi Y Twmpath Mawr lle mae’r hen domenni glo wedi eu gwaredu a miloedd o goed newydd wedi eu plannu.
Dyma ni wedyn yn croesi’r Afon Llynfi er mwyn dychwedlyd i ochr orllewinol y cwm ac yna dechrau dringo eto i gyrraedd copaon Garnwen a Foel Trawsnant. Wedyn, disgyn eto ar hyd Cefn yr Argoed ac yn ôl i Afan Argoed, taith cylch o 14 milltir.

Adroddiad gan Rhun Jones

Lluniau gan Dewi ar Flickr