HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Bannau Sir Gâr 14 Ebrill

Daeth pymtheg o gerddwyr brwd ynghyd ar ddiwrnod hyfryd o Wanwyn ( y cyntaf ers tro!) mewn maes parcio di- dâl i'r dwyrain o bentref Landdeusant ( SN798283).Gan fod gormod o ddwr i groesi'r afon Sawdde i gael gafael ar y llwybr roedd rhaid cerdded yn nôl rhywfaint i gyfeiriad y pentref cyn cael gafael ar bont ac anelu at y mynydd.

Roedd y dringo am y ddwy filltir cyntaf drwy'r rhostir yn ddigon i gynhesu y cyhyrau a braf oedd cyrraedd digon uchel i weld gogoniant Bannau Sir Gar yn ymestyn o'm blaen a Llyn y Fan Fach islaw.Wedi oedi am baned dyma'r orchymyn o ( nid oddiwrth Morwyn y Llyn) "bant a ni" gan y bytholwyrdd Alun Voyle tuag at gopa Waun Lefrith.Ymlaen wedyn heibio dwy garnedd cyn i lethr hir ein harwain i gopa Picws Du.Dyma le i fwynhau golygfeydd godidog dros y llyn a chronfa Ddwr  Cwm Wysg tua'r gogledd a Dyffryn Tywi i'r gorllewin.

O'r copa dyma ddisgyn at Fwlch Blaen Twrch a codi yn syth i gopa gwastad Fan Foel.Ymlaen a ni i gopa Fan Brycheiniog a chael cinio mewn cysgodfan gerrig.Lawr a ni i Fwlch Giedd at lan deheuol Llyn y Fan Fawr.Dyma droedio nôl ar lwybr sydd yn arwain nol yng nghysgod llechweddau gogleddol y Mynydd Du tuag at domen o farian rhewlifol.

Ymhen tipyn daeth y lôn galed i'r golwg a dyma ni yn ei dilyn lawr tua'r maes parcio.

Taith o thua 10 milltir.Diwrnod bendigedig mewn cwmni a thywydd da.

Diolch yn bennaf i Eurig James am ei arweiniad gwych.

Adroddiad gan Dewi Hughes

Lluniau gan Dewi Hughes ar Flickr