HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Dilyn Afon Lledr 14 Mawrth


Er gwaethaf darogan y posibilrwydd o law a gwynt cryf, cafwyd diwrnod sych a digon tawel ar gyfer y daith o Flaenau Dolwyddelan i Fetws-y-coed. Chwarae teg i Rhian Haf o Radio Cymru, a hi’n frodor o Ddolwyddelan, mae’n siwr ei bod wedi trefnu tywydd braf ar ein cyfer!

Betws oedd y man cyfarfod ar gyfer dal trên i orsaf Pont Rufeinig, wrth droed Bwlch Gorddinan ac, fel pob ‘pont Rufeinig’ arall yng Nghymru mae’n siwr, does â wnelo hi ddim â’r Rhufeiniaid. Wedi dringo rhyw 250’ troedfedd yn eithaf serth tuag at ffarm Pen-rhiw (mae ’na gliw yn yr enw), bu’n rhaid i’r arweinydd ymddiheuro am ddisgrifio hon fel taith lawr rhiw yr holl ffordd. Ond, wedi mwynhau paned o fewn muriau Castell Dolwyddelan, roedd bron y cyfan yn oriwaered wedyn. Manteisiwyd ar y cyfle i ddringo i ben y tŵr i fwynhau golygfa wych o ddyffryn Lledr.

Cysylltir y castell â Llywelyn Fawr, a honnir mai yn Nolwyddelan y ganwyd ef. Digon posib, gan fod ei dad, Iorwerth Drwyndwn yn Arglwydd Nant Conwy ond yn sicr nid yn y castell presennol oherwydd Llywelyn fu’n gyfrifol am ei godi tua’r flwyddyn 1210. Yr ochr isaf i’r ffordd fawr, mae olion castell hŷn ac mae’n siwr mai yno yr oedd llys Iorwerth. Cipiwyd Castell Dolwyddelan gan fyddin dan arweiniad Edward I ei hun yn Ionawr 1283, wedi gorymdeithio yno o Ruddlan a’r milwyr wedi eu gorchymyn i wisgo mewn gwyn. Creadigaeth y 19eg ganrif yw tyrau sgwâr rhan uchaf y tŵr; atgyweiriwyd y castell rhwng 1848 a 1850 gan yr Arglwydd Willoughby de Eresby, disgynydd o hen deulu Wynniaid, Gwydir.

Ymlaen wedyn trwy bentref Dolwyddelan tuag at yr orsaf drên ac ar hyd llwybrau ar draws y dolydd tuag at Bont-y-pant, gan fynd heibio i ffermdy Tŷ Isa’. Yno yn 1868 roedd gŵr o’r enw Eli Evans a’i deulu’n byw ond, yn etholiad y flwyddyn honno, trowyd y teulu hwn a phump arall o’u ffermydd am bleidleisio dros yr ymgeisydd Rhyddfrydol, Love Jones-Parry, yn erbyn y tirfeddiannwr, Douglas Pennant. Roedd un o’r teuluoedd ymysg hynafiaid cyfaill annwyl i ni yng Nghlwb Mynydda Cymru, Llew Gwent. Byddai Eli Evans yn pregethu hefyd ac roedd cred yn Nolwyddelan, pe byddai pob un Beibl yn cael ei ddinistrio,y gallasai ef a’i frawd gofio’r cyfan!

Mwynhawyd ail ‘ginio bach’ y dydd yng nghysgod hen blasdy Pen Aeldroch, gwesty a chaffi erbyn hyn, ac yna dilyn llwybr sydd wedi ei wasgu rhwng ceunant Afon Lledr ar y naill law a’r rheilffordd ar y llall cyn cerdded ar hyd dolydd maes gwersylla ffarm Tan Aeldroch ac yna’n ôl i’r ceunant at Bont Gethin.

Pont Tan yr Allt yw’r enw swyddogol, neu’r Lledr Valley Viaduct yn ôl y London and North Western Railway Company a oedd yn gyfrifol am agor y rheilffordd dros y bont yn 1879, ond Pont Gethin ar lafar gwlad ar ôl y bardd, hynafiaethydd ac adeiladydd, Gethin Jones o Benmachno. Ei gwmni ef gafodd y contract o godi’r draphont nodedig hon, dros 300 metr o hyd. Denwyd cannoedd o weithwyr i’r ardal a dywedir bod amryw ohonynt yn cysgu dan fwaon y bont wrth i’r gwaith gael ei gwblhau. Gan fod cymaint ohonynt yn Wyddelod, ’does ryfedd bod llawer o’r gweithwyr yn treulio gormod o amser yn nhafarn y Fish Inn, dafliad carreg o Bont Gethin. Ateb Gethin Jones i’r broblem hon oedd prynu’r dafarn a’i chau!

Wedi croesi’r Wybrnant, a dwyn i gof mai yn y cwm anghysbell hwn y mae’r Tŷ Mawr, cartref William Morgan, a Than-y-clogwyn, cartref Elis o’r Nant, newyddiadurwr, nofelydd, bardd a chymeriad hynod a fu farw yn 1912, penderfynwyd osgoi’r llwybr mwdlyd gyda glan yr afon a mynd am ffordd gefn dawel a di-gerbyd. Aed heibio cartref John Jones, neu Ioan Glan Lledr, yr olaf yn ôl traddodiad i bysgota â chwrwgl ar afonydd Lledr a Chonwy. Roedd yn fardd gwlad a lluniodd englyn sydd ar garreg fedd ei rieni ym Mynwent Sant Tudclud, Penmachno:

            O dan hon mae ’nhad yn huno – a mam
                  ’Run modd yn gorffwyso,
               Ac yn fuan tan run to
               Finnau geir, rwyf yn gwyro.

Ac yn wir, ni fu byw’n hir wedyn ac wedi ei gladdu yntau yn yr un bedd yn 1897, ychwanegodd rhywun y cwpled hwn:

            Gwyrais, wyf yma’n gorwedd
            Teulu ŷm mewn tawel hedd.

Arweiniodd y ffordd hon ni at Bont yr Afanc, ar gyrion Betws-y-coed, lle mae’r Lledr yn ymuno ag Afon Conwy ac ymlaen wedyn am gaffi’r Alpine a phaned a chacen haeddiannol.

Roedd dau ddwsin ar y daith: Nia, Margaret a Llŷr o Fôn, Alun Roberts, Gareth Tilsley, Rhys Llwyd, Nia Wyn a Clive o Arfon, Gwen o Ruthun, Dafydd, Hywel Watkins a Hywel Edwards o Ddinbych, John Arthur a Gwilym Jackson ar y trên cyn iddo gyrraedd Betws, Emyr, Carys, Sandra a Haf o gyffiniau Porthmadog a Harlech, Anet o Lŷn a’r mwyaf lleol Buddug, Jane, Anne, Angharad ac Eryl.

Diolch i bawb am eu cwmni hwyliog a diddan.

Adroddiad gan Eryl.

Lluniau gan Gwilym ag Anne ar Flickr