Ardal Bethesda 12 Medi

    
Cychwynodd 31 o gerddwyr o ganol Bethesda toc  wedi 10 o’r gloch gan fynd heibio talcen capel Bethesda (sydd wedi’i droi yn  fflatiau) drwy Parc Meurig ac allan i’r lôn yng Ngrisiau Cochion. Roedd hi’n  fore braf efo’r haul yn trio ymddangos heibio i’r cymylau. Yno, wedi dringo pwt  bach, roeddem yn ymuno â Lôn Las Ogwen ac yn fuan cafwyd stop bach gyferbyn a  hen adeilad ysbyty chwarel  y Penrhyn. Yn  ôl yr hanes, yno y gwnaed y llawdriniaeth llwyddiannus cyntaf i glaf dan  anasthetig.
        
        Oedi wedyn ger Pont Ogwen lle y roedd rhaeadr  yn llifo’n gryf wedi glaw y dyddiau blaenorol ac yn siwr fod Ynni Ogwen yn  cynhyrchu digonedd o drydan. Ymlaen i fyny’r llwybr ardderchog am Nant Ffrancon  gan fynd heibio i Tai Newyddion a Maes Caradog. Yna croesi’r dyffryn  ac aros ar ddarn mawr o graig i gael paned.  Nododd un o’r criw fod y graig yn debyg i “Ayres Rock” bach.
        
        Ymlaen â ni a chroesi’r A5 yn Nhŷ  Gwyn a dilyn Llwybr yr Offeiriad i fyny ochr  Braich Tŷ Du. Roedd y tywydd yn gwella drwy’r adeg a’r golygfeydd i fyny ac i  lawr y Nant, a’r mynyddoedd gyferbyn o’r Glyderau hyd  at Mynydd Perfedd yn odidog.  Roedd hi’n wlyb wrth hen gorlanau ger Afon  Berthen a digon o li yn honno i wneud hi’n anoddach i’w chroesi. Llwyddodd pawb  heb wlychu gan gerdded ymlaen  drwy’r  brwyn nes cyrraedd Cefn yr Orsedd. 
        
        Yma gwagiodd pawb ei bocs bwyd a fflasg wrth ryfeddu at y golygfeydd i fyny am  y Carneddau. Roedd hwn yn fan addas iawn i dynnu llun neu ddau. Yng nghwaelod y  Nant roedd Dolawen a soniwyd am hen gwrs golff oedd yno yn rhwng tua 1920 a  1936.
      Lawr allt oedd hi wedyn gan gyrraedd y goedwig  ym Mraich Melyn, croesi Pont y Tŵr ac yn ôl i’r pentref ar hyd Lwybr y  Llawfeddyg. Roedd trefniant wedi ei wneud ymlaen llaw i ni gael paned a chacen  yng Nghaffi Coed y Brenin a diolch yn fawr i’r staff yno yn ogystal â phawb  fentrodd ar y daith yma, sef Dewi, Arwel, Llyr, Gareth, Rhiannon, Alun, Glyn,  Nia, Mair, Gwil a Gwenan, John Parry (LlanfairPG), Mike, Rheinallt, Anet, Gwyn,  Nia, Rhiannon, Anne Cooper, Gwen , Haf , Carys, Eryl, Angharad, Tegwen, Huw a  Richard, Arwyn, Euros, Dafydd, Rhys.
Adroddiad gan Rhys Morgan llwyd
      
Lluniau gan Rhys a Meic Ellis ar Fflickr.
