HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Môr a Mynyddoedd, y Preselau 12 Mai


Chwech yn unig o gerddwyr ddaeth at ei gilydd ar gyfer y daith a mwynhau cwmni da, tywydd da a golygfeydd bendigedig. Digby yn arwain, Pwt, Eryl, Eurig, Alison a Huw.

Croeso arbennig i Huw Williams are ei daith gyntaf gyda grwp y de.

Dechrau ym Medd Morris, SN 038365, tua hanner ffordd rhwng Trefdraeth a Phontfaen. Cerdded i’r Gorllewin i Fynydd Dinas, Alison yn dringo Garn Fawr, y lleill yn gwylio! Disgyn wedyn i bentref Dinas, croesi’r A487 a chyrraedd llwybr yr arfordir yn Aber Bach. Ar ôl seibiant, dilyn llwybr yr arfordir tuag at Bwllgwaelod a cherdded o gwmpas Ynys Dinas, sy ddim yn ynys mewn gwirionedd, i gyrraedd Cwm yr Eglwys mewn pryd i gael cinio yn yr heulwen.

Cario ymlaen i’r Dwyrain ar lwybr yr arfordir hyd Aber Fforest, wedyn troi i’r De a dilyn llwybrau yn ôl i Fedd Morris, wedi cerdded bron 12 milltir.

Taith anarferol gan mai’r man cychwyn yw’r man uchaf ar y daith.

Adroddiad gan Digby Bevan.

Lluniau gan Eryl Pritchard ac Alison Maddox ar Flickr