Taith yr Eisteddfod 10 Awst

        
        Dyma saith ohonom (Aled Elwyn yn arwain, Iolo,  Eirlys, Alun, Sioned, Gaynor, Dewi) yn cyrraedd gorsaf Cadoxton wedi dal y tren  o ganol dinas Caerdydd. Glaw trwm i ddechrau y daith o ryw naw milltir ar hyd  llwybr yr arfordir.
        
        Mae'r filltir cyntaf eithaf di-nod gan ei fod yn dilyn  ochr ffordd fawr brysur heibio stâd ddiwydiannol ond cyn hir dyma weld arwydd  llwybr yr arfordir a throi tuag ato. Fel roedd y tywydd yn gwella, daeth  golygfeydd o Fôr Hafren i'r golwg a gwlad yr Haf yn y pellter.
        
Dyma droedio ar y llwybr heibio i greigiau Bendricks, lle  gwelir ôl traed deinosoriaid yn y graig. Cyn hir dyma Ynys Sili yn dod i'r golwg a fu'n gartref  i'r môr-leidr Normanaidd Nighthawk. Cyrraedd trwyn Larnog ble anfonwyd y neges radio gyntaf  dros ddŵr gan Guglielmo Marconi i'w gymydog George Kemp ar ynys Echni (Flat  Holm) rhyw filltir i ffwrdd yn 1897. Wedi troedio drwy ambell i gae o wenith a heibio olion  muriau gynnau gwrth awyrennau o'r ail ryfel fyd dyma weld Penarth yn agosau.
Cinio ger y pier yno ac ymlwybro eto gan ddilyn arwyddion  llwybr yr arfordir trwy ambell i stryd gan basio Eglwys Awstin Sant ble mae y  cerddor a'r cyfansoddwr Joseph Parry wedi ei gladdu. Cyn hir dyma olygfeydd hyfryd o Fae Caerdydd yn dod i'r  golwg a wedi croesi morglawdd y Bae dyma gyrraedd Canolfan y Mileniwm a safle  yr Eisteddfod Genedlaethol am y flwyddyn.
Diwedd perffaith i daith hyfryd. Diolch i Aled am yr  arweiniad a phawb am y cwmni.
Adroddiad gan Dewi Hughes. 
Lluniau gan Dewi a Sioned ar Fflickr.
