HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Foel Grach a Charnedd Gwenllian 10 Mawrth

Roedd dydd Gwener wedi cyrraedd a'r teimlad yn gyfarwydd iawn. Fel pob dydd Gwener y gaeaf hwn!  Mae wedi bod yn aeaf gwych i unrhyw un ohonom sy'n gwerthfawrogi'r profiadau allai'r mynyddoedd gynnig yn ystod y misoedd oer. Wedi cael gweld Rhaeadr Aber wedi rhewi dim ond pum diwrnod yn gynharach a meddwl bydd angen mynd yn ôl i 1986 i gael y fraint o ddweud "Rwy'n cofio". Mae bosib na wnai byth ei weld yn edrych fel hyn eto. Ar y daith gartref ar hyd yr A55 ar brynhawn dydd Gwener cefais y teimlad bod Eryri yn cael Gaeaf fel yr Alban. Mae’n amser maith ers i ni fod mor ffodus!

Roeddwn i wedi bod yn gwylio'r rhagolygon tywydd ers y penwythnos ac yn wir obeithio y byddem yn cael diwrnod gaeafol wirioneddol gofiadwy ar y Carneddau. Fel aeth yr wythnos ymlaen nid oeddwn yn teimlo mor hyderus fel i ragolwg y penwythnos newid. Eira o'r môr i gopa gydag awyr las ddydd Gwener. Rhagolygon dydd Sadwrn yn gynnydd sydyn yn y tymheredd, eira’n dadmar, gwyntoedd 40 mya, glaw trwm o ganol y bore i ganol y prynhawn a niwl trwchus o 500 medr.

10 ohonom yn cyfarfod yn maes parcio ger dafarn Y Bedol yn Nhalybont ar fore tamp, llwyd, niwliog gyda'r bwriad o sicrhau bod pob car yn llawn ar gyfer y daith i fyny i Lyn Eigiau oherwydd diffyg llefydd parcio ger y llyn. Nid oedd angen i ni boeni; ni oedd yr unig rai a oedd yn barod i fentro allan i'r mynyddoedd ar y fath ddiwrnod! Ond dyna natur mynydda. Roedd hi'n ddiwrnod heriol heb lawer o gyfle i gael lluniau o unryw fath o olygfa ond roedd pawb yn gwenu wrth i ni ymadael ar ôl cyflawni'r amcan. Stephen Williams yn arwain gyda Gwyn Llanrwst, Eifion, Gerallt a Dwynwen Pennant, Chris Humphreys, Edward Griffinths, Denise Pritchchard, Sioned Llew ac Ann o Feddgelert. Croeso i Denise ar ei thaith gyntaf fel aelod newydd.

Cychwyn allan o dan awyr lwyd o Lyn Eigiau a dilyn llwybr Melynllyn cyn torri ar draws i fyny at gopa Craig Eigiau am baned tu ôl i gysgod y graig. Agorodd y nefoedd wrth i ni setlo i lawr am baned felly dim llawer o seibiant cyn ail gychwyn. Roedd y llwyfandir ar y blaen mewn niwl trwchus a’r  sgyrsiau bellach wedi tawelu wrth i'r gwynt godi a’r tywydd gwyllt yn taflu bopeth atom fel oeddwn yn codi am y grib rhwng Carnedd Llywelyn a Foel Grach. Dilyn y cwmpawd am y gribble mewn niwl a glaw a gweithio ein ffordd drwy eira trwchus mewn llefydd wedi lliywchio ar ôl y stormydd yr wythnos gynt. Ymlaen at gopa Foel Grach ar ol cyraedd y grib drwy mwy o eira trwchus a cinio yn lloches cyntaf y dydd. Copa newydd i Ann a Denise. Roedd drws y cwt ar agor ac angen cropian yn  anghyfforddus i fewn gyda'r eira wedi lliwchio y tu fewn i 'r cwt. Rhai yn cael cinio tu fewn tra bod eraill yn dewis eistedd y tu allan gan fod cysgod y copa yn cadw’r gwynt iffwrdd. Parhau tuag at yr ail gopa, Carnedd Gwenllian. Ail gopa newydd i Ann a Denise. Parhau wedyn  tuag at Foel Fras cyn gostwng yn serth i Lyn Dulyn. Wrth gyraedd ail loches y daith, roedd hi'n amlwg bod rhywyn yn aros yno  gyda dwy ganwyll yn llosgi a map yn sychu allan ar y bwrdd. Fodd bynnag, cawsom y lle i ni’n hunain a mwynhau cwpan o “Mulled Wine” cynes gan Sioned o'i thaith esgideirio diweddar yn Ffrainc. Wrth i ni adael Lloches Dulyn,  cawsom ein cyfarch tu allan gan Gerallt a'i dripod ar gyfer y llun grŵp! Ymlaen am Llyn Dulyn ac i fyny’n serth wedyn am Felynllyn cyn dilyn y llwybr yn ôl i Gwm Eigiau.

Braf bod allan, dim y tywydd fwya ffafriol, dim y diwrnod gaeafol yr oeddem wedi obeithio amdano, yn bendant yn daith i'w ystyried eto ar ddiwrnod braf, a dim pwysau i fod yn ôl yn gynnar ar gyfer y rygbi oherwydd mae ein amser ni i ddod eto! Roedd peint yn Y Bedol yn swnio fel syniad da yn gynnar yn y dydd, ond newid allan o ddillad gwlyb a chynhesu oedd ar feddwl pawb erbyn ddiwedd y dydd. Digon o hyny i ddod. Mae’r haf ar ei ffordd!

Adroddiad gan Stephen Williams

Lluniau gan Gerallt Pennant a Sioned ar Fflikr