HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cylch Paddy Buckley 4-7 Mai

Creuwyd Cylch Paddy Buckley yn 1982 fel sialens eithafol i redwyr mynydd. Daeth yr ysbrydoliaeth o Gylch Bob Graham yn ardal y LLynoedd, a greuwyd yn ôl yn 1932. Y gamp ydi rhedeg y cylch cyfan mewn llai na 24 awr. Mae rheolau eitha caeth os am rhoi cynnig ar Gylch Bob Graham ond mae 2168 wedi cyflawni’r gamp a chael eu henwau ar y rhestr swyddogol. Mae naws llai ffurfiol i Gylch Paddy Buckley a mae pawb sydd wedi rhoi cynnig ar y gamp yn ddi-dor yn cael eu henwi ar y rhestr, 160 i gyd gyda 123 o dan 24 awr. Mae record Cylch Paddy Buckley gan Tim Higginbottom, athro o’r Wyddgryg, a cyflawnodd y gamp mewn 17 awr 42 munud yn 2009. Er y cadw rhestrau ac amseroedd, mae pwyslais mawr ar y ffaith fod Cylch Paddy Buckley yn siwrne wych o amgylch Eryri.

Felly, gyda rhagolygon y tywydd yn edrych yn ffafriol am benwythnos Gŵyl y Banc, dyma gychwyn o Gapel Curig am 6:00am bore dydd Gwener. Criw o bedwar efo’r bwriad o gwbwlhau’r cylch mewn pedward diwrnod – Dwynwen, Morfudd, Gareth a Gerallt. Er mawr ddisgwyl i’r niwl godi, ni chafon weld mwy na ryw ganllath o’n blaenau drwy'r dydd. Ar ôl mynd dros Moel Siabod a medru dilyn y ffens, roedd cael hŷd i’n ffordd drwy’r corsydd rhwng Allt Fawr a chwarel Rhosydd yn dipyn anoddach. Mi gafon ni hefyd drafferth cael hŷd i Dei a Cheryl, a ddaeth i’n cyfarfod yn Rhosydd ond ar ôl chwibianu daethant atom a cawsom eu cwmni o amgylch y Moelwynion a Cnicht, cyn gorffen am y dydd yn Aberglaslyn.

Lluniau'r diwrnod cynta gan Gerallt ar Flickr

Ar ôl diwrnod hir yn y niwl roedd gweld yr haul a gwybod bod diwrnod cymharol fyr o’n blaenau yn codi ein calonau. Roedd hi’n braf cael cwmi Sian, Gwilym, Alwena a Hywel o Aberglaslyn dros Bryn Banog a Moelydd Cwm Pennant. Ffarwelwyd â Gwilym ym Mwlch y Ddwy Elor, yn gadael saith ohonom i fwynhau gyda'r nos heulog wrth fynd dros ben gogleddol Crib Nantlle, gyn gorffen yn Rhyd Ddu.

Lluniau'r ail ddiwrnod gan Gerallt ar Flickr

Bore dydd Sul roedd prysurdeb y maes parcio yn Rhyd Ddu yn argoeli y byddai copa’r Wyddfa fel ffair. Cawsom gwmni Anwen, Sioned a Carys o Gricieth (are eu taith gynta efo’r Clwb) a Iolo, gan gwchyn yn sionc am Fwlch Cwm LLan cyn gwyro i gyfeiriad Craig Wen a wedyn i gopa Yr Aran. Dyma ran tawela’r daith, ond wrth ddringo Allt Maenderyn a cyraedd copa’r Wyddfa dyna beth oedd ffair Gŵyl y Banc go-iawn. Fe gollwyd golwg o Gerallt yn y torfeydd, gan ei fod yn benderfynnol o gael lluniau traed yr holl bobol a'u cŵn. Ar ôl piciad i gopa Crib y Ddysgl braf oedd cael dianc o’r miri a cychwyn dros Moel Cynghorion a Moelydd Llanberis a mynd yn ôl i dawelwch y mynyddoedd a mwynhau haul hwyr y dydd wrth gerdded i lawr Llanberis.

Lluniau'r trydydd diwrnod gan Gerallt ar Flickr

Ar ôl cryn drafod ymysg y pedwar gwreiddiol faint o fwyd a diod oedd angen, dyma gyfarfod ar fore dydd Llun yn Llanberis am 5:00am. Cafwyd dechrau gwych i’r dydd dan arweiniad Morfudd o lan Llyn Padarn i fynu drwy chwarel Dinorwig ac i gopa Elidir Fach. O’r Elidir Fawr ymlaen mae’r cylch yn dilyn trywydd sydd yn gyfarwydd i bawb sydd wedi cerdded y pymtheg copa, heblaw fod Paddy wedi cynwys Mynydd Perfedd a Foel Goch – diolch Paddy! Wrth ddisgyn i lawr o Tryfan, dyma deimlo’r gwres yn codi ac erbyn cyraedd Llyn Ogwen roedd hi’n llethol o boeth. Roedd dechrau dringo Pen yr Ole Wen yn artaith ond cafwyd seibiant heiddianol a chwsg melys i Gareth ger Afon Lloer. Golygodd y seibiant yma na welodd Sian Port, ein cydymaith ar ran olaf y daith, y pedwar yn gorwedd wrth y nant. Roedd Sian wedi enill Ras y Moelwyn deuddydd ynghynt ac yn amlwg dal mewn hwyliau rhedeg gan iddi gyraedd ysgwydd Carnedd Llywelyn cyn gyrru neseg yn dweud unai ein bod yn cerdded yn hynod o gyflym neu ei bod heb ein gweld. Chwarae teg i Sian fe redodd hi  yn ôl i gyfarfod y pedwar blinedig uwchben Ysgolion Duon. Roedd y ddau gopa olaf, Pen yr Helgi Du a Pen Llithrig y Wrach, i’w gweld yn dywyllodrus o agos o gopa Carnedd Llywelyn a doeddem ni fawr feddwl y byddai yn 10:30pm arnom yn cyraedd Capel Curig wedi blino’n racs. Arwydd o’r blinder llethol oedd i bawb ddechrau rwdlan ac un o’r ychydig bethau cofiadwy oedd i Morfudd ail enwi’r daith yn ‘Cylch Paddy Boncyrs’.

Lluniau'r pedwerydd diwrnod gan Gerallt ar Flickr

I’r rhai ohonoch sydd efo diddordeb mewn ystadegau, yn ôl y teclyn GPS roedd hi’n daith o 74 milltir gyda esgyn o 28,538 troedfedd. Buom yn cerdded am 50 awr i gwbwlhau’r cylch o 47 o gopaon.

Petai’r pedwar ohonom wedi digwydd gweld Paddy Buckley yn ystod dwy awr olaf y daith go brin y byddai wedi clywed gair caredig ganddom. Ond, wrth edrych yn ôl ac wrth i’r cymalau ystwytho dyma daith oedd yn her anferth ac yn cynnig gwedd newydd ar y mynyddoedd yr ydym i gyd mor hoff ohonynt. Cymerwch gyngor gan bedwar gwirion, ewch amdani!!

Ceir map o'r daith YMA
Ceir cofnod o'r "nytars" sy wedi cyflawni'r gamp YMA

Adroddiad gan Dwynwen