HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moel Siabod 7 Mai

Un o dair o deithiau teulu Clwb Mynydda Cymru ar Wŷl y Banc Mai

A hithau rhagoeli’n ddydd Calan Mai braf ddaru 20 o unigolion ymgynnull ym maes parcio Bryn Glo yn barod am yr her o fynd i gopa Moel Siabod. Roeddwn i’n arbennig o falch o groesawu’r 15 oedd yn ymuno ar y daith i flasu mynydda efo’r Clwb am y tro cyntaf. Ar ôl gair bach o groeso aethom ar ein ffordd dros Bont Cyfyng a heibio Ffarm Rhos cyn troi tua’r de heibio twll Chwarel y Foel ac am Llyn y Foel. Yn anffodus bydd Nerys yn cofio’r cyffiniau yna am resymau chwithig oherwydd iddi gamu i fewn dros ei chanol i lain o fawnog ond chwarae teg doedd hi ddim gwaeth ar ôl cael mymryn o gymorth i rhyddhau ei hun. Yma hefyd cawsom y profiad sur braidd o wylio ci yn rhedeg yn rhydd ac yn hel ar ôl defaid. Diolch byth,  ar ôl i mi gael gair efo’r perchennog mewn criw y tu ôl i ni roedd ar denyn am weddill y daith. Wrth i ni gael hoe ar lwyfan fach wrth droed crib y Ddaer Ddu cawsom y syndod o weld aelod ychwanegol yn ymddangos allan o’r grug  – Arwel wedi codi’n hwyr ond yn ymuno efo ni’n ddidrafferth.  Aeth gweddill y daith i fyny’r llwybr i’r de ac o dan crib y Ddaear Ddu yn hwylus iawn efo Euros a Maelgwn, y ddau ‘fenga o bell bell ffordd, yn arwain cryn dipyn. Wrth i’r golygfyedd agor o flaen ein llygaid ucha’n y byd roeddem yn dringo roedd nifer yn gwironi gyda sawl ymholiad ynglŷn ag yn union beth oeddem yn ei weld. Ar ô llun dathlu ar y copa a mwy o edmygu golygfeydd ddaru ni fwynhau ein cinio yn y gysgodfan yn arw cyn troi am i lawr gyda’n trwynau am Blas y Brenin a Choedwig Bryn Engan. Cerdded hamddenol braf, gyda haul y prynhawn y tu ôl i ni ar hyd llethrau moel ochr clen Moel Siabod ac ar hyd glannau Afon Llugwy oedd hanes rhan ola’r daith.

Diolch i Gwen Rhuthun, Nerys ac Elgan, Eirian ac Eleri, Ffion a Marian, Tegwen a Medwyn, Eirlys, Heulwen, Euros a Maelgwn, Audra, Rhiannon, Nia, Rhys a Noel, Arwel, Elin a’i gwr.

Adroddiad gan Sian

Lluniau gan Sian ag Eirlys ar Flickr