HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Carnedd Llywelyn o Gwm Eigiau 6 Hydref


Cychwyn  daith yn raddol ar hyd llawr Cwm Eigiau heibio’r bwlch yn yr argau a berodd gymaint  ddifrod i bentre Craig Lwyd  yn 1925. Ymuno wedyn a’r dramffordd sydd yn arwain i hen chwarel Cwm Eigiau.

Cyfle i gael seibiant with y graig fagnel cyn dilyn afon Eigiau at ei thariad yn Ffynnon Llyffant.

Dringfeydd enwog fel Mûr y Niwl ac Ampheature Buttress ar Graig yr Ysfa i’w gweld yn glir. Ffynnon Llyffant yw’r llyn uchaf yng Nghymru a man delfrydol i wersylla gwyllt ar noson o hirddydd yr haf. Cyfle i Gerallt gael defnyddio ei dripod cyn i ni  sgramblo i ben  y grib sydd yn arwain at gopa Carnedd Llywelyn.

Oddi yno tramwyo o dan Foel Grach ac ymuno a’r Gledrffordd. Wedi i Rhys “ar frys” Dafis ein gadael cawsom gyfle i ymlacio ar ben Craig Eigiau yn haul cynnes  yr hydref. Golygfeydd gwych o Gwm Eigiau a Phen Llithrig y Wrach.

Dim ar ôl rwan ond troedio’n ôl i’r ceir a galw yn y Bedol am beint haeddiannol!

Adroddiad gan Arwel

Lluniau gan Gerallt ac Arwel ar Flickr