HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pedol Cwm Ystradllyn 4 Tachwedd


Efo rhagolygon y tywydd yn addo niwl a glaw yn dod yn drymach erbyn y pnawn syndod oedd gweld 17 dewr yn ymgynnull ger argae Cwm Ystradllyn. Y criw oedd John Parry, John Williams, Gerallt, Dwynwen, Sioned, Anwen, Carys, Sioned Llew, Iolyn, Gareth Everett, Dafydd Legal, Morfudd, Tegwen, Dylan Huw, Iolo Roberts, Gwen a Manon.

Wedi croesi’r argae a mynd heibio Ynys Wen, ein copa cyntaf oedd Moel Ddu. Yn anffodus nid oedd yn bosib gweld y golygfeydd godidog o Borthmadog a’r Traeth Mawr. Ar ôl paned, disgyn i Fwlch Cwm Oerddwr, lle mae’r arwydd yn atgoffa pawb i beidio llychwino’r dŵr, hynny yw i beido pipi yn Llyn Cwm Ystradllyn! Codi’n serth wedyn i gopa Bryn Banog ac ymlaen i Gwm Cŷd. Cinio sydyn yn fano a’r niwl mynydd erbyn hyn yn law go iawn. Wedyn, dringfa fwyaf serth y dydd i gyrraedd ein trydydd copa sef Moel Hebog. Dim oedi yno chwaith efo’r glaw erbyn hyn yn genlli ond chware teg i pawb doedd na ddim grwgnach. Pledu mynd i lawr braich Moel Hebog ond dim golwg o’r llyn nes cyrraedd y ffordd sydd yn mynd i hen bentref Treforys.

Er bod y glaw yn cilio, braf oedd cyrraedd lloches Ystafell De Tyddyn Mawr lle cafwyd paned a chacen haeddiannol a chyfle am sgwrs. Hanner awr yn ddiweddarach, yn gwbwl groes i’r rhagolygon, roedd y glaw wedi clirio’n llwyr, y cymylau wedi codi ac roedd posib gweld y tri copa y buom i’w pen ar y daith.

Diolch i bawb am eu cwmni hwyliog

Adroddiad gan Dwynwen

Lluniau gan Gerallt Pennat ar Flickr