Arenig Fawr 3 Chwefror

  
Nid oedd y rhagolygon tywydd yn ddeniadol ar  gyfer Dydd Sadwrn - gwynt, glaw, eirlaw ac eira. Ac efallai fod gêm rygbi yn help i dorri calon rhai mynyddwyr brwd! Ond er mae ond pump  ohonom a fentrodd i fyny’r Arenig Fawr, barn pob un ohonom oedd inni gael  diwrnod arbennig, ac yn wir o dan yr amodau roedd pump yn ddigon efallai.  Chawsom ni ddim glaw nac eirlaw, yn wir rhwng cawodydd o eira gwelsom awyr las,  pan nad oedd niwl trwchus.
        
Aethom heibio Llyn Arenig ac i fyny’r grib i  gyfeiriad y Castell. Wedi ysbaid ar gwr yr eira , ymlaen tua’r copa gyda’r  amodau yn gwaethygu ac yn fwy heriol  wrth fynd yn ein blaenau. Byr fu’r arhosiad ar  y copa, gan ddisgyn i gyfeiriad y de trwy eira cymharol drwchus, ond yn ddigon  caled i ddal ein pwysau, cyn aros am ginio.  
Parhau ymlaen tua’r de hyd nes y gwelem y  llwybr yn troi tua’r gorllewin. Wedi disgyn yn gymharol gyflym , dod allan o’r  niwl a’r eira. Oherwydd fod y dydd yn fyr, a bod Moel Llyfnant o’r golwg mewn  niwl, penderfynu mynd i lawr y cwm yn uniongyrchol i Amnodd Wen. Ac yna ymuno  maes o law ar lwybr yr hen reilffordd a’r ffordd fawr  sy’n mynd   heibio adfeilion y chwarel a’r clwstwr o dai sydd yn yr Arenig. Cyrraedd  yn ôl ger y ceir mewn pryd i glywed Cymru’n  curo’r Albanwyr, ond wedi ennill y frwydr yn erbyn y mynydd a’r elfennau ein  hunain!
Diolch am gwmni Sian, Raymond, Eifion a John  Arthur. Taith Clwb Dyffryn Conwy!
Adroddiad gan Gwyn  Williams
        
      Lluniau gan Raymond a Eifion ar FLICKR
