Y Glyderau 29 Gorffennaf

Daeth 26 ohonom i ymweld â'r Glyderau ar fore Sadwrn sych a  chymylog. Wedi'r glaw trwm yn ystod y dyddiau cynt, penderfynwyd na fyddai'n  addas i sgrialu Grisiau Idwal, felly ymlaen a ni i Ogwen ac i fyny i Gwm Idwal.  Dilyn llwybr o waelod Clogwyn y Tarw, yn raddol ar draws y llethr ac i Gwm  Cneifion. Eryl yn manteisio wrth gymryd y cefn ac yn hel llys yn ddiwyd. Paned  sydyn ac edmygu'r golygfeydd cyn troi at "Senior's Ridge" ac i fyny  am Glyder Fawr.
        
        Cinio ar y copa, cyn mynd ymlaen at Gastell y Gwynt, rhai yn  mynd dros y top a rhai o’i amgylch, Glyder Fach wedyn, ac yna at Y Gwyliwr i  drio cael llun o bawb ar ei dop. Yna, cychwyn i lawr a cael paned olaf ger  llwybr y Mwynwyr, nid nepell o Lyn Caseg Fraith. Ymlaen i Fwlch Tryfan ac i  lawr heibio Llyn Bochlwyd i Ogwen.
        
        Diolch yn fawr iawn i Edward, Dyfed, Marc Briggs, Steve Llechid,  Rhian, Gareth Everett, Ieuan Pugh Jones, Nic Parry, Eirwen, Alun Caergybi,  Dafydd Legal, Anet, Gwyn Chwilog, Gwen Evans, Iolo, Gwilym Jackson, Nia Wyn  Jones, Rhiannon Humphreys, Robart, Steve, Rhys, Noel, Eryl, Richard, ac Owain  am eu cwmni.
        
  Adroddiad  gan Chris Humphreys
Lluniau gan Gwilym ag Anet ar Fflikr
