HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Scramblo/Sgrialu Clogwyn y Person 26 Awst

Cyfarfu 6 ohonom ym maes parcio Nant Peris ar fore sych a gweddol braf, sef Manon, Janet, Hywel Watkin a’i fab Rhys, Eryl a finnau.

Oherwydd culni y ffordd i fyny o Nant, penderfynwyd dal bws mini at y bont i groesi am Gwm Glas. Dringom yn raddol nes cyrraedd y darn gwastad a elwir yn Gwm Glas Mawr, ac ambell waith syllu’n ôl i gael golwg ar ein dewis gwreiddiol sef Gwter Bryant. Dechreuom ddringo’n serth gan ddilyn llwybr amlwg nes cyrraedd Cwm Glas a chael golwg cyntaf o Glogwyn y Person. Cafwyd paned sydyn a rhoi ein helmedau ymlaen o ran diogelwch cyn dechrau sgrialu gydag ochr y gwter orllewinol.

Cyrhaeddom y llecyn yn ddi-drafferth lle bydd rhai yn angori pe bai angen rhaff. Oddi yno, roedd y sgrialu yn weddol rwydd ar wahân i un man, ond roedd pawb wedi llwyddo yn ddi-drafferth.
Cyrhaeddom pen y sgrial a cherdded yn rhwydd nes cyrraedd ysgwydd Crib y Ddysgl i olwg amryw o gerddwyr yn dod o gyfeiriad Crib Goch. Cymerwyd y cyfle i gael cinio yn yr haul cyn cychwyn am gopa Crib y Ddysgl. Dilynom yr ysgwydd i lawr at stesion Clogwyn, gan osgoi y niferoedd o gerddwyr ar lwybr Llanberis.

Oddi yno wnaethom ddilyn y grib i gyfeiriad Llechog gyda’r bwriad o ddilyn y grib sgrial 56 yn llyfr Steve Ashton, ond sylweddwyd ein bod wedi mynd ymhellach na’r man cychwyn, felly penderfynwyd dilyn y llwybr serth i lawr i’r bont sydd yn croesi afon Nant Peris ac yn ôl i’r maes parcio.

Diolch i bawb am eu cwmni hwyliog a diwrnod da o fynydda go iawn!

Adroddiad gan Gareth Wyn Griffiths