HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Nant Gwynant i Ryd-ddu 26 Ebrill



Teithiau Ystafelloedd Te ar Droed yr Wyddfa – Cymal 2

‘Mae gormod o draul ar gopa’r Wyddfa’ – dyna yw barn Sam Roberts, cyn warden, a sawl un arall.  Felly beth am feddwl am ddefnyddio mwy ar y llwybrau is?  Dyma yw amcan y 4 taith yn y gyfres yma.  Yn nhraddodiad gorau’r Himalaya mae’n syniad da anelu taith o gaffi i gaffi – a dyma wnawn:
Wedi stwffio 28 ohonom fel sardîns i mewn i Fws 97 o Feddgelert i Nant Gwynant cychwynnodd y daith yn addawol yn heulwen mis Ebrill.  A ninnau wedi ymddeol i gyd, be well na chychwyn gyda phaned yn ystafell de ardderchog Hen Gapel Bethania  a rhannu hanesion?

Taith syml iawn oedd hon; dilyn llwybr y Watkin a chodi’n raddol hyd at Gynllun Trydan Dŵr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.  Yna cadw at lwybr Cwm Llan a cherdded tuag at y Bwlch.  Mae’r llwybr yma’n gyson gysgodol ac roedd y tywydd yn garedig iawn gyda gwres yr haul yn ein gwarchod rhag oeri.

Penderfynwyd aros i gael cinio ar ochr ddwyreiniol y bwlch rhag ofn y byddai’r gwynt yn brathu’r ochr arall.  Yna ar ôl orig fechan, cerdded i lawr drwy chwarel Bwlch Cwm Llan i Ryd-ddu.  Oherwydd salwch, nid oedd ystafell de Tŷ Mawr yn agored, ond roedd croeso twymgalon yn Nhafarn y Cwellyn Arms - hamddena  go iawn oedd nodyn y dydd.

Gyda’r haul yn gwenu a dim brys ar neb i ruthro adre, penderfynodd pawb gerdded yn ôl i Feddgelert ar hyd Llwybr Gwyrfai.  Mae lluniau Anet yn dysteb i lonyddwch y llwybr  newydd yma.
Bydd y ddwy daith olaf yn cael eu cynnal yn y dyfodol agos.

Adroddiad gan Rhiannon

Mae Clive yn cadw rhestr o bawb sy’n dod a CHOFIWCH bydd paned a chacen am ddim i’r rhai sy’n cwblhau'r cylch cyfan o lwybrau is yr Wyddfa!!

Lluniau gan Anet ar Fflickr