HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Godre'r Eifl 25 Chwefror




Roedd hi’n niwl dopyn, y glaw yn gyrru a’r gwynt yn hyrddio pan gyrhaeddodd wyth ohonom y man cychwyn – Gwenan a Gwil, Dwynwen a Gerallt, Iolyn, John Arthur, Gwyn Llanrwst a finna, Anet.  Fuwyd fawr o dro yn penderfynu bod yr arfordir yn well dewis na’r copaon ar y fath dywydd; roeddan yn go wlyb cyn gadael y maes parcio hyd yn oed.  I ffwrdd â ni felly ar draws y caeau, gan ddilyn Llwybr y Pererinion tua  ffermydd Cilia a Cefnydd, gyda Gwenan ar y blaen a’i chwmpawd yn ei llaw (oedd, roedd y niwl mor drwchus a hynny!) Roedd tipyn o holi – Lle ar y ddaear ydan ni?  Lle mae’r môr?  I ba gyfeiriad ydan ni’n mynd? – cyn dod o dan y niwl wrth Eglwys Pistyll a chyfle i astudio’r map yn y gilfan barcio.  Ysgafnodd y glaw am ychydig funudau yn unig cyn i ni newid cyfeiriad a chychwyn yn ôl tua’r dwyrain ar hyd Llwybr yr Arfordir, yn falch iawn bod y tywydd i’n cefnau erbyn hyn.  O’r llwybr roeddan yn gweld a chlywed y môr yn frochus oddi tanom, ond doedd hi ddim yn ddiwrnod i loetran.  Cawsom seibiant sydyn am ginio uwchben Chwarel Carreg y Llam cyn anelu drwy’r hen goed derw am Nant Gwrtheyrn a chroeso Caffi Meinir erbyn dechrau’r pnawn. Diolch i’r aelod hirben awgrymodd fynd â char i lawr i’r Nant yn y bore fel nad oedd raid llusgo’n ôl i fyny’r allt i’r maes parcio a’r niwl  drwy’r gwynt a’r glaw gyrru.

Adroddiad gan Anet


Lluniau gan Gerallt Pennant ar FLICKR