HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

O Abergwyngregyn i Gonwy dros Tal y Fan 19 Awst

Cychwynnodd 18 ohonom o Abergwyngregyn yn llawn gobaith fod Trefor Brockway yn gywir gyda’i ragolygon. Ond wrth edrych tuag at y môr  gwelwyd y cymylau glaw yn teithio tuag atom ac erbyn cyrraedd Moel Ganol agorodd y llifddorau gan wlychu pob un nad oedd  ‘di gwisgo dillad addas.  Roedd y gwynt yn gryf, ond yn rhywfaint o gymorth i’n gwthio dros y bryniau. 

Diolch byth, ciliodd y glaw, gwellodd yr amodau, gan roi cyfle i bawb werthfawrogi’r tirlun o’n cwmpas. Diddorol oedd cerdded heibio gorsaf ymchwil dan ofal Prifysgol Bangor yn monitro gollyngiadau nwyon tŷ gwydr o’r wrin defaid yn y pridd. Gwelwyd hefyd henebion oedd yn agor ein dychymyg i’r defnydd  a wnaed o dir y Carneddau yn y gorffennol.

Ar ôl disgyn at Fwlch y Ddeufaen roedd pawb yn falch o gyrraedd  Tal y Fan wedi’r sgrambl fach i’r copa. Arhosom yna am ennyd fach i werthfawrogi godidowgrwydd Dyffryn Conwy. Drwy gydol y daith gwelwyd arwyddion o dymor yr Haf yn dirwyn i ben….. y grug, a’r blodau eithin yn ail ymddangos , mwyar duon a llys, ffwng o bob math yn ymddangos o nunlle.

Wrth gerdded ymlaen tuag at Gonwy gwelwyd haid o ferlod y Carneddau yn edrych yn iach a chryf ar ôl yr Haf ac ebolion bychan yn ei plith. Erbyn i ni gyrraedd golwg Bwlch Sychnant roedd yr haul yn tywynnu’n gryf a phawb, dwi’n meddwl, yn falch eu bod wedi troi allan !  Adroddodd teclyn ffon glyfar Richard ein bod wedi cerdded 12 milltir erbyn diwedd y daith ac wedi esgyn 3,100 troedfedd. Do wir, rhoddodd y daith hon dipyn bach o her i ni’r hen ‘grogs’ ond roedd cwrw da yr Albion yn gwneud yn iawn am yr holl chwysu a thuchan.

Braf oedd croesawu Ieuan, ein haelod  ifanc o Aberystwyth, oedd yn gyfrwng gwych i osod cyflymder gweddol heriol i’r grŵp. Diolch felly i’r canlynol am eich cwmni:
Richard a Sw, Eirwen, Alun Caergybi, Dilys ac Aneurin, Alun Roberts, Haf, Janet, Siân Shakspear, Eli Elis Williams, Euros, Rhys Llwyd, Gareth Tilsley, Dafydd Dinbych ac Ieuan.

Adroddiad gan Rhiannon a Clive

Lluniau gan Rhiannon a Clive ar Fflikr