HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pen yr Helgi Du a Phen Llithrig y Wrach 11 Mawrth



Heb amheuaeth roedd taith i gopaon Pen yr Helgi Ddu a Phen Llithrig y Wrach yn ddeniadol i nifer dda o aelodau’r clwb – a mwy. Daeth 25  o gerddwyr brwd ac eiddgar ynghyd i faes parcio Capel Curig. Rhyw fore di-ddrwg di-dda oedd hi, dim addewid am lawer o law, ond dim haul chwaith. Wrth gerdded i fyny’r hen ffordd tuag at Ogwen, roedd  y copaon o dan orchudd o gymylau isel.

Wedi croesi’r A5 gerllaw Helyg a dringo’n serth  “ ffordd  y bwrdd dŵr” i gyfeiriad Ffynnon Llugwy, gan droi i’r dwyrain am ychydig gyda glan y ffos ddŵr. Yn fuan iawn roeddem ar ysgwydd Pen yr Helgi Du, gan gael ysbaid a phaned cyn mynd ymlaen i’r niwl a’r copa.Mae’r dringo yn raddol ond yn ddi-baid hyd inni gyrraedd y copa.

Wedi cinio, syrthio i lawr i Fwlch y Tri Marchog, cyn ailddechrau dringo ac ymlaen i gopa Pen yr Helgi Ddu. Ni fedrem ond dychmygu y golygfeydd, a hyd yn oed wedi syrthio lawr i Fwlch Tri Chwmwd, prin fod Cowlyd yn dod i’r golwg. Yn wir roedd y niwl wedi cau amdanom gydol y ffordd yn ôl i’r A5 fwy neu lai. Er mwyn  atgoffa y criw o’r hyn y medrem fod wedi ei weld tynnwyd llun neu ddau gan osod yr olygfa yn dechnegol rhithwir (chwarae triciau!).

Er gwaetha’r niwl trwchus, barn pawb ar y daith oedd inni fwynhau y cwmni a’r cymdeithasu os na fu inni weld y golygfeydd arferol o Ogwen. Diolch am gwmni  Dilys ac Aneurin,Gareth Wyn a Buddug o Benmachno; Everett, Myfyr,Gwyn Chwilog,Elen Huws,Iolo Caernarfon,Richard o Ruthun,Eirwen ac Alun a Dafydd; a chriw  Bethesda  sef Sian Shakespear,Edward,Chris, Hilary,Mark a Steve. Roedd yn braf hefyd gweld aelodau’r dyfodol – Greta o Fethel, Anna o Frynrefail ynghyd ac Aled gydal Alys  o Borthaethwy. Diolch arbennig i rai o’r mwyaf profiadol am gynorthwyo i gadw’r ddiadell gyda’i gilydd yn y niwl.

Adroddiad gan Gwyn Williams


Lluniau gan Myfyr, Gwyn ac Aneurin (rhai yn rhithwir!) FLICKR