HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith yr Eisteddfod - Ynys Cybi 10 Awst

Cyfarfu 23 ohonom ar gyfer y daith o Gaergybi i Borthdafarch; sef Richard, Sue, Eirlys, Iolyn, Dylan Huw, Rhian, Gwyn, Alun Roberts, Rhiannon, Nia, Dilys, Aneurin, Llyr, Gwen, Eurig, David, Dafydd, Ieuan, Ioan, Elen, Alun Caergybi, Alun Fachwen ac Eirwen. Cychwynwyd ger y morglawdd a cherddom ar hyd yr arfordir tuag at y chwarel ym Mharc Morglawdd Caergybi er mwyn  ymweld â’r safle hanesyddol. Aethom ymlaen at hen orsaf corn niwl Ynys Arw  ble  daeth dau forlo chwilfrydig i  fwrw golwg arnom yn mwynhau ein  paned cyntaf  tra’n gwrando ar Alun Fachwen yn adrodd ychydig o hanes dringo ar glogwyni enfawr  Bae Gogarth. Dringom i gopa Mynydd Twr ble gwelwyd olion Caer y Twr a chymryd seibiant i ryfeddu ar y golygfeydd godidog tuag at Eryri, Ynys Manaw, Enlli, dros Ynys Mon a thuag at faes yr Eisteddfod. Ymlaen wedyn at Ynys Lawd a Thwr Elin ar gyfer picnic tra bu rhai yn mwynhau gwledd anrhydeddus yn y caffi!

Parhawyd ar hyd llwybr yr arfordir tuag at safle Cytiau’r Gwyddelod a chyfle arall i ryfeddu ar ddyfeisgarwch a medrusrwydd ein cyn dadau. Treuliwyd y gweddill o’r pnawn yn ymlwybro ar hyd yr arfordir yn ôl i Borthdafarch gan fwynhau’r grug ar ei orau a chwmpeini  ambell i Fran Goesgoch.

Diolch yn fawr iawn i Alun Fachwen ac Alun Caergybi am eu cymorth ac i Aneurin am y lluniau.

Adroddiad gan Eirwen

Lluniau gan Aneurin ar Fflikr