HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Gogledd y Carneddau 8 Hydref

Fe wawriodd bore Sul 8 Hydref yn heulog braf ar y Drum gan godi gobeithion bod y rhagolygon tywydd gwael yn anghywir. Wedi cyfarfod ar lawr y dyffryn aethom â rhai ceir i fyny i Fwlch y Gaer a chychwyn cerdded oddi yno. Mae’r llwybr dros Benygadair, Pen y Castell a Foel Lwyd i gopa’r Drum yn amrywiol a diddorol gan gynnig golygfeydd gwych o Ddyffryn Conwy a’r Carneddau, ac yn ddiweddarach Ynys Môn a’r Fenai. Cadwodd y niwl draw yr holl ffordd i’r copa ond stori wahanol oedd hi wrth ddringo’r gefnen hir a serth rhwng y Drum a Foel Fras; cyn cyrraedd y copa roeddem mewn cwmwl trwchus a glaw mân ac yn falch o gael cysgodi tu ôl i’r wal garreg i gael cinio. Ymlaen wedyn i gopa Carnedd Gwenllian cyn troi i lawr a chymryd llwybr anelwig ar y dechrau ond yn fwy amlwg wrth i ni ostwng, at yr Afon Ddu a’r trac oddi yno yn ôl i Fwlch y Gaer.

Deuddeg ohonom oedd ar y daith. Braf oedd cael croesawu aelod newydd, Eirian,  a chael cwmni diddan Sian, Gerallt, Dwynwen, Tegwen, Richard, John Arthur, Dei, Cheryl a Gwilym i gyd-gerdded hefo Aneurin a finna.

Adroddiad gan Dilys

Lluniau gan Aneurin a Gerallt ar Fflikr