{scripts}

HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

{scroll}

Aran Benllyn 8 Gorffennaf

Wrth gasglu ynghŷd ym maes parcio Pont y Pandy roedd y diwrnod yn llawn addewid. Daeth wyth o wroniaid , gan wrthod gwahoddiad i wylio y Llewod PRYDEINIG ym mhen draw byd, gan edrych ymlaen  i droedio ‘r Aran Benllyn. Wrth gerdded ar ran gyntaf y llwybr, aroswyd ennyd gerllaw Carreg Llew i gofio y cyfaill a fyddai yn ddi-os wedi arwain taith i gopa’r Aran.

Wrth ddringo roedd Llyn Tegid a rhan helaeth o Benllyn yn dod fwy-fwy i’r golwg o’n hol. Cyrraedd y copa, ac yma eto heb gael ein siomi; golygfeydd ysblennydd i bob cyfeiriad, ar ddiwrnod oedd yn eithriadol o glir. Wedi oedi am ginio, ymlaen lai na hanner milltir gan droi i’r dwyrain a disgyn ysgwydd Erw’r Ddafad Ddu hyd lan Creiglyn Dyfi.

Wedi ysbaid yma i werthfawrogi yr amffitheatr o’n cwmpas, ymlaen tros ysgwydd Moel Hafod Fynydd ac i lawr tros grib fain Braich yr Hwch. Roeddem yn rhyfeddu at ramant enwau’r tirwedd o’n cwmpas, ond yn rhyfeddu mwy at y golygfeydd trawiadol o’n cwmpas – edrych i fyny i gesail ddiarffordd Yr Aran Benllyn gyda  cymoedd Du a Llwyd o bobty i ni.

Wedi disgyn i fuarth Cwm Ffynnon, dilyn y llwybr i lawr Cwm Croes ac yna Cwm Cynllwyd yn ôl i Bont y Pandy wedi diwrnod prin a chyfareddol ym Mhenllyn. Diolch am gwmni Gwyn Chwilog, Gwen Chwilog, Anet, Iolo, John  Williams o’r Port, Haf a John Arthur.

Adroddiad gan Gwyn

Lluniau gan Anet a Gwyn ar Fflikr