HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Carneddau 8 Ebrill



Y Grib Lem, Carnedd Dafydd, Carnedd Llywelyn a’r Elen
Arweinydd: Richard Roberts

Un mynyddwr ar bymtheg a ddaeth ynghyd i ddechrau’r daith ym Methesda ar fore hynod o braf. Ymunodd Hefin â’r criw wrth geg Cwm Pen Llafar ar ôl iddo orffen rhoi’r dillad ar y lein i Morfudd! Cerdded yn llygaid yr haul tan cyrraedd godrau’r Grib Lem lle cawsom baned. I fyny Llwybr y Cerrig Gwynion yn serth er mwyn canfod dechrau’r sgrial a hynny yn dod â ni o gysgod Foel Meirch ac yn ôl i heulwen llachar.

Mwynhaodd pawb y sgrialu, yn arbennig Rhian, a oedd yn profi’r gamp am y tro cynta’. Bu llawer o dynnu lluniau a bu Eryl yn brysur yn darbwyllo eraill a oedd ar y graig am fanteision amlwg ymuno â’r Clwb. Cyrraedd copa Carnedd Dafydd erbyn amser cinio lle nad oedd hi mor brysur â hynny wrth ystyried y tywydd gwych a’r ffaith bod ysgolion Lloegr hanner ffordd trwy’r gwyliau Pasg.

Ymlaen â ni ar hyd Cefn Ysgolion Duon a chroesi Bwlch y Cyfryw-drum cyn esgyn yn serth i gopa Carnedd Llywelyn. Erbyn hyn, roedd ambell un wedi dechrau sôn am alwadau eraill a oedd ar y gweill ganddyn nhw y noson honno. Roedd pryder amlwg yn llygaid Chris wrth iddo ddechrau meddwl nad oedd amser i bawb fwynhau peint ar ddiwedd y daith ac felly, rhaid oedd bras-gamu bron i lawr i’r bwlch uwchben Ffynnon Caseg ac yna i gopa’r Elen er mwyn gwneud yn siwr ein bod yn cyrraedd Bethesda mewn da bryd!

Disgyn yn serth o gopa’r Elen a dilyn Braich y Brysgyll cyn croesi Afon Llafar a chyrraedd Tafarn y Siôr tua 5.15. Taith wych yng nghwmni criw difyr, sef: Eryl; Chris; Dafydd; Steve Cross; Steven Llechid; Gareth; Gwilym; Hefin; Hilary; Marion; Morfudd; Owain; Rhian; Robat; Siân; Sioned; Richard.

Adroddiad gan Richard Roberts

Lluniau gan Sioned ar Fflickr