HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Gyrn Ddu a’r Gyrn Goch 3 Mehefin



Fe wnaeth 19 ohonom gwrdd ar yr hen lôn rhwng Gyrn Goch ac Llanaelhearn ar fore braf iawn ac yn barod am yr her a'r golygfeydd. Y criw oedd Gwen / Einir / Gerallt a Dwynwen / Gwyn Llanrwst / John Arthur (efo sgidiau newydd sbon) / Emyr / Alun Caergybi / Dafydd / Iolyn ac Eirlys / Chris / Hilary / Raymond / Gwyn Jones / Sian / Anet a Gwenan a fina.
        
Cerdded wedyn yn ôl am Gyrn Goch ac yna fynu trwy'r goedwig yn serth I'r copa gyntaf sef Gyrn Goch ei hun, panad sydyn yno ac ymlaen am Bwlch Mawr.  Er bod pawb wedi chwysu ar y ffordd i fyny yn yr haul, cythru am y dillad glaw oedd rhaid i arbed gwlychu oherwydd un gawod fach! Er hynny, fe gododd yn braf wedyn ac fe gafodd pawb siawns i fwynhau'r golygfeydd arbennig sydd i'w cael yn yr ardal yma.

Ar ol cyraedd Bwlch Mawr, troi yn ôl wedyn a dilyn ôl ein traed cyn mynd i fyny am Gyrn Ddu (mwy o olygfeydd godidog) ac yna lawr heibio yr hen chwareli am y ceir.

Diolch i bawb am eu cwmni a gobeithio bod pawb wedi mwynhau.

Adroddiad gan Edward Griffiths

Lluniau gan Gerallt Pennant ar Fflikr