HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moelydd yr Wyddfa o Lanberis 2 Rhagfyr

Cafwyd cwmni deg ar y daith; daeth naw ynghyd i faes parcio Mynydd Gwefru i gychwyn y daith, gyda Morfudd yn ymuno gyda ni yn nes ymlaen.  Ein bwriad oedd  dilyn llwybr taith 16 o Copaon Cymru. Yn anffodus nid oedd y tywydd yn addawol, ond gobeithio’r gorau. Aethom i fyny Ffordd Capel Coch ac ymlaen ar Frongoch i gyfeiriad y Moelydd. Cyn cyrraedd Bwlch y Groes, troesom i’r mynydd gan dorri ar draws i ymuno gyda’r llwybr o’r bwlch. Yna dringo i gopa Moel Eilio i fwynhau cysgod a phaned yn y gysgodfa.

Wedi ysbaid, ymlaen yn y niwl a’r glaw tros y Foel Gron a’r Foel Goch, cyn disgyn i Fwlch Maesgwm i fwynhau cinio mewn cysgod cymharol. Ond roedd un copa arall yn ein haros, felly dringo eto yn y niwl a’r glaw i gopa Moel Cynghorion, cyn disgyn yn serth i Fwlch Cwm Brwynog. O’r bwlch cymerwyd llwybr anelwig gyda godre’r Foel, gan gadw’n uchel uwchben yr afon Arddu. Mynd heibio corlannau defaid ac ymlaen hyd yr Helfa Fawr, sef bwthyn wedi ei adnewyddu yn ddiweddar.

O’r Helfa Fawr roedd trac hwylus yn ôl heibio Hebron ac i lawr o’r mynydd yn ôl i Lanber. Os na chawsom y golygfeydd arferol, na thywydd braf, cafwyd cwmni difyr Richard, Elen George, Gwilym Jackson, Anet, Gwyn Chwilog, John Parry, Morfudd, Dafydd Jones a John Arthur. Diolch am eu cwmni.

Adroddiad gan Gwyn

Lluniau gan Gwilym ac Anet ar Fflickr