HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cader Idris 2 Medi

Ar Sadwrn hyfryd ddechra' Medi, cyfarfu unarddeg o aelodau yn Nhy Nant, Islawrdre, gyda'r maes parcio yn brysur lenwi. Y bwriad oedd dilyn taith 34 yn y llyfr "Copaon Cymru" (ar gael yn eich siop lyfrau leol am £15) i ben Cader Idris. Cerdded ar hyd y ffordd cyn belled a gwesty'r Gwernan, yna dilyn Llwybr Madyn i fyny at Lyn y Gader. Cael panad yno gyda Manon a Myfyr yn gadael y fintai i ddringo crib ddwyreiniol y Cyfrwy. Y gweddill, dan arweiniad Morfudd (diolch Morfudd), yn ymlafnio fyny rhan ucha Llwybr Madyn i gopa'r Gader i fwynhau'r golygfeydd godidog. Ymlaen wedyn i gopa'r Cyfrwy gan ail-ymuno a'r dringwyr. Panad arall (cinio i rai) cyn disgyn ar hyd cefn y Cyfrwy i lawr i Rhiw Gwredydd gan weld haid fawr o Gwtiad Aur (Pluvialis apricaria) ychydig islaw'r copa. Yn dilyn trafodaeth, pasiwyd i fynd ymlaen i'r Tyrrau Mawr - golygfa ysblennydd o Lynnau Cregennen, moryd y Fawddach a Phen Llyn cyn troi'n ol am Rhiw Gwredydd a'r maes parcio yn Nhy Nant. Diwrnod da, diolch i bawb.

Y criw oedd: Morfudd, Mair, Einir, Richard, Sue, Tegwyn, Manon, Ieuan, Alun Caergybi, Dafydd Legal a Myfyr.

Adroddiad gan Myfyr

Lluniau gan Morfudd, Einir a Mair ar Fflikr