HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Yr Wyddfa 2 Ionawr



Mae taith i gopa’r Wyddfa i ddathlu’r flwyddyn newydd yn hen draddodiad bellach gan y clwb. Efallai bod cynnal y daith ar yr ail o’r mis yn rhoi cyfle i mwy o bobl ddod atynt eu hunain wedi dathlu’r Calan neu efallai mai’r addewid o dywydd da a ddenodd dros dau ddwsin, bron pawb wedi cerdded i fyny o Ben y Gwryd gan fod y maes parcio ym Mhen y Pas yn llawn ers ychydig wedi saith!

Wedi cyrraedd Bwlch y Moch, mentrodd Prys a’r ddau Gareth droi am y Grib Goch a’i chael yn ddigon di-rew, tra’r aeth y gweddill ymlaen ar hyd llwybr PyG a chanfod bod angen cryn ofal oherwydd y rhew wrth ddringo o Bant y Lluwchfa i Fwlch Glas.  Cyrhaeddodd y tri (gŵr doeth?) y copa fel roedd y gweddill yn cnoi eu brechdanau yn yr heulwen.

Rhannwyd eto’n ddau grŵp, gyda’r rhan fwyaf yn dychwelyd i Fwlch Glas ac yna nol ar hyd llwybr y mwynwyr tra’r aeth tri Crib Goch a Manon, Morfudd, Marion, Alun Caergybi ac Eryl i lawr am Fwlch y Saethau ac yna dros Lliwedd fel bod cynrychiolaeth, o leiaf, wedi cwblhau’r Bedol.

Gadawodd Myfyr a Charli’n criw ger Bwlch Glas i gynorthwyo i ofalu am wraig a oedd wedi syrthio a thorri ei braich. Cludwyd hi i Ysbyty Gwynedd gan hofrennydd, a ddychwelodd wedyn i godi’r criw achub a’u cludo i Nant Peris. Yno roedd John Grisdale, a oedd wedi treulio’r rhan fwyaf o’r noson cynt efo tîm achub Llanberis ar Yr Wyddfa, i roi lift nôl iddynt at eu ceir.

Cyrhaeddodd bawb o’n criw ni’n ôl yn saff ond yn rhyfeddu (fel mor aml) at ddiffyg offer ac esgidiau a dillad addas cymaint o bobl – a rhoi cip olwg inni ar faint ymroddiad aelodau’r timau achub mynydd.
Dyma ymdrech i gofnodi enwau’r cerddwyr (gan amau fy mod efallai wedi hepgor un neu ddau – ymddiheuriadau!): Dafydd Legal, Anne Till a Gwenno, Eifion Llanfair-pwll, Eirwen a dau Alun, Morfudd, Tegwen a Medwyn, Chris, Hilary, Garri a Dyfed, Manon, Marion, Sian Sh., Haf, Stephen, Charli, Myfyr, Andy o Gaernarfon, Gareth Evret, Gareth Rynys, Prys ac Eryl.

Diwrnod gwych a’r cwmwl a ddaeth i orchuddio’r copa erbyn canol y p’nawn wedi cadw draw nes ein bod ar ein ffordd i lawr. Diolch i bawb am eu cwmni hwyliog.

Adroddiad gan Eryl Owain

Lluniau gan Myfyr, Tegwen a Sian ar FLICKR