HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Cnicht o Gelli Iago 1 Gorffennaf

Ar ôl wythnos lwyd a di-haul roedd deffro i awyr las fore dydd Sadwrn yn amheuthun.  Diwrnod perffaith i fynd am dro.  Daeth un ar ddeg ohonom i’r gilfan wrth Gelli Iago ac roedd yn braf gweld rhai wynebau fu’n ddieithr ers tro.  Un aelod, nad yw’n arfer edych ar raglen dydd Sadwrn y Clwb, yn ddiolchgar iawn fod Eryl yn anfon negeseuon i dynnu sylw / atgoffa cyn bob taith.  Roedd golygfeydd trawiadol wrth ddringo o Gelli Iago i gopa’r Cnicht, ymlaen am Lyn yr Adar ac i lawr heibio Llyn Llagi.  Er ei bod yn ddigon gwlyb dan draed yn amal roedd y tywydd i’r dim i gerdded ac roeddem yn cyrraedd y ceir pan ddisgynnodd diferion cyntaf y glaw addawedig.  Roedd panad yng Nghaffi Gwynant yn ddiwedd perffaith i’r diwrnod.  Yr un ar ddeg oedd Gwyn Llanrwst, John Arthur, Gareth Tilsley, Gwen Aaron, Elen, Ros o Langrannog, Dafydd Rhys (ein cyn-ysgrifennydd), Sian Williams Pwllheli, Gwilym Jackson, Gwyn Chwilog ac Anet.

Adroddiad gan Anet.

Lluniau gan Anet a Gwyn ar Fflikr