HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Glyderau 30 Ebrill



Cyfarfu naw ohonom  ar fore sych ond digon oer oherwydd yr eira annisgwyl, sef Alan Humphries, Sioned Llew, Chris ac Edward, Eryl, Raymond, Richard a Steven ar ei daith gyntaf hefo'r clwb a minnau.

Cychwynom o'r maes parcio a chroesi ar draws i gyfeiriad Llyn Idwal i gyrraedd y slabiau
a phenderfynwyd, er mor wlyb oedd y graig, rhoi cynnig ar y sgrial Rhif 39 yn llyfr Steve Ashton
Mae'n wir dweud mai cychwyniad hon yw y darn anoddaf ond er hynny, cyrrhaeddom y pwynt i groesi drosodd i ben y slabiau. Cafwyd  ychydig o drafferth ar un pwynt i ddod heibio rhyw bwt o graig di nôd yr olwg, cyn dilyn ymlaen i fyny'r sgrial at waelod ysgwydd y grib nesaf Rhif 38, gan fynd draw i mewn i'r cwm i olwg Crib Cneifion.

Cafwyd cinio cynnar yno a phenderfynnu oherwydd yr amgylchiadau, gadael y grib a'i gwneud yn y rhaglen nesaf, pan fyddai y tywydd yn fwy ffafriol. Ymlaen wedyn i fyny'r sgrial 38 a'r eira erbyn hyn yn fwy trwchus, gan gyrraedd Glyder Fawr mewn ychydig o niwl.

Ar ôl seibiant byr yno, cychwynom ymlaen i gyfeiriad Castell y Gwynt a rhyfeddu ar amryw o gerddwyr oedd ddim wedi gwisgo yn addas gan ystyried y tywydd. Cyrhaeddom yr hafn ochr y Gribin i Castell y Gwynt a'i dilyn yn serth i lawr drwy eira meddal at Lyn Bochlwyd. Cafwyd amser i gael paned sydyn yno cyn ymlwybro lawr y llwybr serth yn ôl i'r maes parcio a chael ein perswadio i ymuno a chriw Bethesda am ddiod haeddianol yn y Douglas.

Diwrnod pleserus eto gyda chwmni ffraeth.

Adroddiad Gareth Wyn

Lluniau gan Gareth Wyn, Steve Williams a Sioned Llew ar FLICKR