HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Craig Wen, Yr Aran a Dinas Emrys 30 Ionawr

Man cychwyn y daith oedd Maes Parcio Craflwyn Nant Gwynant, ac roedd 19 aelod wedi cwrdd ar gyfer y daith. Croesawyd dau aelod newydd, ac un yn ddysgwraig a’i Chymraeg yn arbennig o dda.
Roedd Gertrude (storm) wedi bod ar feddwl yr arweinwyr drwy’r wythnos gan drafod addasu’r daith pe bai angen. Yn ffodus nid oedd Gertrude wedi troi i fyny ond roedd ei gwynt cryf yn bresennol!

Mae Maes Parcio Craflwyn rhyw 53 m uwch na lefel y môr ac felly roedd cryn godi serth i gopa Craig Wen 587 m a hynny o fewn 2 km. Cafwyd cysgod o’r gwynt cryf nes cyrraedd y grib rhwng Craig Wen a’r Aran. Yna cawsom daith  ddiddorol  iawn !! ar hyd y grib ac i gopa’r Aran  747 m (Jumbo Jet). Golygfeydd gwych i sawl cyfeiriad a chryfder y gwynt yn ychwanegu at y profiad.
Erbyn hyn daeth yr haul allan a chafwyd cinio pleserus iawn ar y ffordd i lawr i Lwybr y Watkin. Ymhen ychydig troi i’r gorllewin, wrth y rhaeadr i gyfeiriad Craflwyn, gan fynd heibio Bylchau Terfyn, Cwm Bleiddiaid, Cwm yr Hyrddod ac yna dilyn Afon y Cwm.

Gan fod amser yn caniatau, penderfynwyd ymweld â Dinas Emrys lle mae olion yr hen gaer a’r pwll lle, yn ôl y chwedl, y trechodd Y Ddraig Goch y Ddraig Wen.

Rhaid dweud fod y storiwr wedi cael grwandawiad teilwng er ei fod braidd yn siomedig ar faint yr het!

Diwrnod arbennig iawn a phawb wedi mwynhau’r profiadau. Diolch i bawb am eu cwmni ac am wneud gwaith yr arweinwyr yn hawdd.

11 km gyda 950 m o godi

Adroddiad gan Cemlyn Jones a Morfudd Thomas.

Lluniau gan Cemlyn Jones a Morfudd Thomas ar FLICKR