HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Garn 17 Awst

Daeth 17 o aelodau ac un ci at ei gilydd yn y Ganllwyd ar ddiwrnod braf o haf i gerdded i fyny'r Garn, mynydd 629 medr/2064 troedfedd yn y Rhinogydd - John Arthur, Gwyn Llanrwst, Emyr, Rhian, Gwenan, Gwil, Alun, John Parry, Anet, Gwyn Chwilog, Dilys, Aneurin, Haf, Raymond, Myfyr, Susan, Richard (a Nansi'r pwdl).

Aeth y daith heibio hen weithfeydd aur Berthlwyd a Chefn Coch, ac roeddem yn ffodus i gael Myfyr gyda ni i ddehongli adfeilion yr adeiladau, cyn dringo'r glaswellt serth ar ochr y mynydd.
Wedi cyrraedd wal y mynydd, cawsom seibiant am baned cyn mynd am y copa.

Cyn dychwelyd i'r ceir, aethom i weld y Rhaeadr Ddu ar yr afon Gamlan, lle mae geiriau o gerdd Thomas Gray wedi eu hysgrifennu ar lechen mewn Lladin a Saesneg.

Adroddiad gan Raymond Griffiths


Lluniau gan Aneurin a Raymond ar FLICKR