HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cwm Hesgyn 15 Mehefin


Er gwaethaf bygythiadau o law taranau a’r cymylau duon a welwyd yn crynhoi o amgylch Aran Benllyn ac Arenig Fawr, cafwyd diwrnod sych (rhyw fymryn o law am ychydig funudau) ar gyfer y daith i Gwm Hesgyn.

Wedi cyfarfod yn y bore yng Nghanolfan Dŵr Gwyn Tryweryn, ar gyrion pentref Fron-goch, croeswyd  y briffordd brysur am Gwm Prysor ac yn fuan roeddem yng nghanol tawelwch y cwm.  Wedi oedi i gael paned a mwynhau golygfeydd da o Fynydd Nodol a’r Arenig i lawr am Benllyn, daethom i olwg hen dyddyn Cwm Hesgyn, sy’n dal mewn cyflwr da ac sy’n cael ei ddefnyddio o hyd fel tŷ gwyliau.  O’r 1970au cynnar ymlaen bu’n gartref i’r artist, Clyde Holmes, a fu farw yn 2008, ac a baentiodd y cwm gannoedd lawer o weithiau yn ei amrywiol hwyliau ar wahanol adegau o’r flwyddyn.  Cofia rhai am ei blant yn cerdded i’r ffordd fawr bob bore i gyfarfod y bws ysgol.

Croeswyd yr afon wedyn i ddilyn ffordd drol glir sy’n codi’n raddol tuag at Lyn Hesgyn, lleoliad naturiol i gael cinio a gwylio’r hwyaid gwylltion ar y llyn.  I’r gorllewin, mae llethrau Carnedd y Filiast a’i ysgwydd ddeheuol yn dwyn yr enw anghyffredin, Brotos.  Cafwyd sgwrs â ffarmwr Defaidty, o ben ucha Cwmtirmynach, a eglurodd ei fod yn gorfod croesi’r gefnen o’i gartref bob yn hyn a hyn i chwalu’r defaid i lawr o’r gât derfyn lle maent yn crynhoi, wedi eu hel yno’n anfwriadol gan gerddwyr (fel ni!) sy’n cerdded i fyny’r cwm.  Ond chwarae teg iddo, nid oedd yn edliw dim ein rhyddid i fwynhau gogoniant y cwm.

Wedi ail-droedio’r un llwybr am tua 600 metr, dilynwyd llwybr arall drwy’r rhedyn i fyny ysgwydd Graig Ddu ac ymlaen i Fwlch Graianog.  Erbyn hynny, roeddem yn edrych i lawr ar Gwmtirmynach gyda Foel Goch yn union i’r dwyrain, Moel Emoel yn nes i’r de a’r Berwyn yn y pellter.  Ar i  lawr â ni wedyn yn serth yn ôl at lan afon Hesgyn a’i dilyn i lawr, gyda dargyfeiriad byr at furddun Traean-y-garn, cyn dychwelyd i’r maes parcio i fwynhau paned a chacen yng Nghaffi Manon, gan swatio yno’n glyd wrth i fellt a tharanau dorri o’n hamgylch.

Diolch yn fawr i’r 26 am eu cwmni hwyliog a difyr (gan obeithio bod Adam, o Gastell Nedd yn wreiddiol, ar ei daith gyntaf efo’r clwb, wedi mwynhau cwmni ‘hen bobl’ drwy’r dydd!) – Margaret, Nia, Llŷr a John Parry o Fôn, Dafydd o Ddinbych, Osian, Rhiannon a Gareth o gyffiniau Wrecsam, Susan a Raymond, Gareth Tilsley, Rhys Llwyd, Gwilym Jackson, Haf Meredydd, Iona Evans, Elen Huws, Adam Davies, ac Anet, Rhian, Gwyn, Gwenan a Gwilym o Lŷn/Eifionydd a Jane, Olwen, Angharad ac Eryl.

Adroddiad Eryl


Lluniau gan Haf a Rhys ar FLICKR