HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith yn y grug 14 Medi

Buom yn  lwcus iawn o'r tywydd ar gyfer ein taith yn ardal Llanbedrog a Mynytho; roedd hi'n ha' bach Mihangel go iawn. Cychwynnodd y daith ym Mhlas Glyn y Weddw a daeth Iwan Hughes atom i roi ychydig o hanes y Plas cyn i ni gychwyn trwy'r Winllan i gopa Mynydd Tir Cwmwd gan ymuno â rhan o Lwybr yr Arfordir i lawr i Draeth Ty'n Towyn.

Cafwyd cinio cynnar wedi cyrraedd y traeth a phawb yn gyndyn i ail gychwyn gan ei bod mor braf yno. Rhyfeddu ac wfftio at foethusrwydd y tai haf yng ngwersyll y Warren ac amau ymysg y palmwydd yno ein bod wedi'n cludo'n ddiarwybod i gyffiniau Môr y Canoldir.

Troedio'n ein blaenau trwy fferm Castellmarch a chlywed y chwedl am March ap Meirchion a'i glustiau ceffyl cyn codi i ardal y Wilins yng nghyffiniau Mynytho. Troi i lwybr penclawdd Pant y Wennol a chael yr hanes am y bwgan a'r aflonyddu fu yno yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Cafwyd ail ginio wrth y byrddau picnic yn nhroed y Foel Gron a hanes adeiladu Neuadd Mynytho sydd wedi ei hanfarwoli yn englyn R Williams Parry.
Ymlwybro yn y gwres i gopa'r Foel ac ar draws rhostir Mynytho cyn belled â bwthyn China, un arall o hen dai'r ardal ynghyd â New York, Yr Aifft a Cornwall, sydd wedi eu henwi ar ôl llefydd ym mhellafoedd byd. Oddi yno dilyn llwybrau'r chwarelwyr ithfaen i Lanbedrog ac ar hyd gwar mynydd Tir Cwmwd yn ôl am banad a chacan dderbyniol iawn yn y Plas.

Mentrodd dau ar hugain ar y daith sef Margaret, Llyr, Mair, Euros, Gwen Richards a John Parry o Sir Fôn, Gareth Tilsley, Rhys Llwyd, Gwen Aaron, Gwilym Jackson, John Arthur, Eryl, Angharad, Olwen, Rhian, Gwen, Margaret, Emyr, Huw Myrddin, Haf, Gwenan a Gwil.

Adroddiad gan Gwenan

Lluniau gan Gwenan ar FLICKR